Ymgynghoriad

Adolygiad o gymorth staffio i'r Aelodau a’r adolygiad o’r Weithdrefn Ddisgyblu a’r Weithdrefn Gwyno

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys cynigion ar ddwy o ffrydiau gwaith y Bwrdd Taliadau:

Adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau

Diben yr ymgynghoriad

Yn ei gyfarfod ar 11 Hydref ystyriodd y Bwrdd y dystiolaeth a gafwyd yn ystod ei adolygiad o'r cymorth staffio i'r Aelodau ar y materion nad yw eto wedi gwneud penderfyniad yn eu cylch. Cytunodd y Bwrdd:

  • nad oedd wedi cael digon o dystiolaeth ar rai o'r meysydd yn y cylch gorchwyl ac nad oedd felly yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i'r darpariaethau hynny;
  • i ohirio'i ystyriaeth o rai o'r meysydd yn y cylch gorchwyl i'w adolygiad o'r Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad;
  • i ymgynghori ar unrhyw feysydd sy'n weddill yn y cylch gorchwyl.

Ystyriodd y Bwrdd addasrwydd telerau ac amodau presennol y staff cymorth a chytunodd i ymgynghori ar ddiwygio neu addasu nifer o ddarpariaethau. Mae crynodeb o'r cynigion hyn isod:

  • addasu cyflogau'r staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion;
  • cyflwyno diwrnodau braint ar gyfer staff cymorth;
  • cyflwyno polisi absenoldeb tosturiol newydd ar gyfer y staff cymorth.

Hefyd, ystyriodd y Bwrdd y trefniadau ariannu ar gyfer Aelodau'r Cynulliad sy'n cyflogi aelodau o'r teulu a chytunodd i ymgynghori ar gael gwared ar allu'r Aelodau i ariannu cyflogaeth aelodau o'r teulu a phartneriaid drwy'r Penderfyniad.

Cylch gorchwyl

Bydd y Bwrdd yn adolygu tystiolaeth bresennol a thystiolaeth newydd sy’n ymwneud â’r lwfansau staffio a ddarperir i’r Aelodau er mwyn sicrhau bod y cymorth ariannol sydd ar gael yn cefnogi diben strategol y Cynulliad ac yn hwyluso gwaith ei Aelodau, yn ogystal â sicrhau bod y system cymorth ariannol i’r Aelodau yn gadarn, yn glir, yn dryloyw, yn gynaliadwy ac yn rhoi gwerth i’r trethdalwr.

Bydd yr adolygiad yn ystyried:

  • pa mor ddigonol yw lefel y cymorth a roddir i'r Aelodau;
  • pa mor hyblyg a rhagnodol yw’r system cymorth bresennol i’r Aelodau;
  • pa mor addas yw telerau ac amodau presennol staff cymorth.

Gweithredu'r Polisi Urddas a Pharch

Diben yr ymgynghoriad

Ymdrinnir â materion aflonyddu, bwlio ac ymddygiad amhriodol mewn perthynas â staff cymorth yn ôl y prosesau a amlinellir yn y Gweithdrefnau Cwyno a Disgyblu. O'r herwydd, mae'r Bwrdd wedi cytuno bod angen adolygu'r dogfennau hyn ar unwaith i sicrhau eu bod yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cyd-fynd â'r polisi Urddas a Pharch. Yn ei gyfarfod ar 11 Hydref ystyriodd y Bwrdd yr adborth cychwynnol a gafodd ar y Weithdrefn Ddisgyblu a'r Weithdrefn Gwyno a chytunodd i ymgynghori ar nifer o newidiadau i sicrhau bod y ddwy weithdrefn yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ac yn cyd-fynd â pholisi Urddas a Pharch y Cynulliad. 

Cylch gorchwyl

Yn sgil mabwysiadu polisi Urddas a Pharch Comisiwn y Cynulliad, ymrwymodd y Bwrdd i adolygu'r holl ddogfennau a pholisïau priodol o fewn ei gylch gorchwyl i gefnogi newid diwylliannol ac i sicrhau nad yw ymddygiad amhriodol yn cael ei oddef ac yr eir i'r afael ag ef yn briodol. Mae'r dogfennau a'r polisïau a ganlyn yn dod o fewn ei gylch gorchwyl:

  • Cod Ymddygiad staff cymorth; 
  • Gweithdrefn Ddisgyblu staff cymorth;
  • Gweithdrefn Gwyno staff cymorth. 

Darparu tystiolaeth ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad mae'r Bwrdd yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio gan y Bwrdd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddant yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Mae'r Bwrdd yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Datgelu gwybodaeth

Sicrhewch eich bod wedi ystyried y ffordd y bydd y Bwrdd yn defnyddio'ch gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Bwrdd. Nodir hyn yn yr atodiad i’r ddogfen ymgynghori.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cyflwyniadau yw dydd Iau 13 Rhagfyr 2018. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565