Ymgynghoriad

Ymchwiliad i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau am gael eich barn am:

·            Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen cynnydd sylweddol yn y gwaith ymchwil a wneir sydd â'r nod o helpu i ddatrys yr heriau penodol a wynebir gan Gymru (ymchwil a ysgogir gan her). Mae hefyd yn dweud bod angen cydbwyso'r math hwn o waith ymchwil â'r math mwy traddodiadol o waith ymchwil hirdymor a wneir gan brifysgolion sy'n gwthio ffiniau gwybodaeth.

o  I ba raddau ydych chi'n cytuno â'r farn hon a sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau na fydd cynnydd mewn un math o waith ymchwil yn digwydd ar draul math arall o waith ymchwil?

·           Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am ddod â'r holl gyllid ymchwil ynghyd ac y dyali'r cyllid hwn fod ar gael wedyn i fusnesau bach a chanolig, busnesau mawr preifat a sefydliadau eraill, yn ogystal â phrifysgolion a cholegau.

o  I ba raddau y dylai busnesau a sefydliadau eraill allu cael cyllid ymchwil gan y Llywodraeth a allai fod wedi mynd i brifysgolion a cholegau fel arall? Sut y gellid gwneud hyn heb danariannu rhai sefydliadau – a allai hyn arwain at ganlyniadau anfwriadol?

·           Roedd adolygiad diweddar o gyllid ymchwil yn dadlau bod yna risg gref y gallai buddiannau prifysgolion o ran ymchwil ac arloesi yn y brifysgol fwrw buddiannau busnesau preifat o ran ymchwil ac arloesi i'r cysgod. Ond, nid oedd yr adolygiad yn cynnig unrhyw ffordd o atal hyn rhag digwydd.

o  Beth sydd angen ei wneud i sicrhau na chaiff busnesau a'u buddiannau eu bwrw i'r cysgod gan brifysgolion o ran y cyllid a’r gwaith sy’n gysylltiedig ag ymchwil ac arloesi?

·           Yn ystod y flwyddyn academaidd 2016/17, cofnododd prifysgolion Cymru bod 241 o fusnesau newydd wedi'u sefydlu gan raddedigion gyda throsiant amcangyfrifedig o £56 miliwn, sef bron dwbl trosiant y busnesau newydd a sefydlwyd gan staff prifysgolion yn yr un flwyddyn.

o  Beth sydd ar waith ar hyn o bryd gan brifysgolion a Llywodraeth Cymru i helpu a chefnogi myfyrwyr a graddedigion mentrus i droi eu syniadau yn fusnesau llwyddiannus?

o  A yw'r gefnogaeth hon yn systematig a chyson ledled Cymru ac a oes mwy y gallai Llywodraeth Cymru ac eraill ei wneud?

·           Gwnaed argymhellion yn yr adolygiad diweddar o waith ymchwil y dylid helpu i annog busnesau a phrifysgolion i gydweithio'n agos â'i gilydd ar ymchwil ac arloesi er mwyn mynd â'u gwaith ar y cyd gam ymhellach.

o  Beth y gall busnesau a phrifysgolion gynnig i'w gilydd pan fyddant yn cydweithio ar brosiectau ymchwil ac arloesi?

o  A ddylai Llywodraeth Cymru ac eraill fod yn gwneud unrhyw beth yn wahanol i ddod â busnesau llai ynghyd â phrifysgolion er mwyn cydweithio ar brosiectau ymchwil ac arloesi? Beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd ddim yn gweithio cystal?

Beth y dylai Llywodraeth Cymru ac eraill fod yn ei wneud i helpu busnesau i ddefnyddio'r wybodaeth a gesglir drwy waith ymchwil a'i droi'n ddeunydd y gellir ei farchnata neu'n wasanaethau gwell?

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565