Ymgynghoriad

Statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i’r cymhwyster diwygiedig Bagloriaeth Cymru a gyflwynwyd i’w addysgu ym mis Medi 2015.  Bydd y Pwyllgor yn edrych ar y cymhwyster yng Nghyfnod Allweddol 4 ac ôl-16.

Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio’n benodol ar y canlynol:

  • I ba raddau y mae dysgwyr, rhieni, gweithwyr addysg mewn ysgolion a cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn deall ac yn gwerthfawrogi’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru;
  • I ba raddau y mae dysgwyr, gweithwyr addysg mewn ysgolion a cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch yn ystyried bod Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster trylwyr sy'n cyfateb i gymwysterau eraill;
  • Statws y cymhwyster Bagloriaeth Cymru mewn ysgolion a cholegau, gan gynnwys targed Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod y cymhwyster yn cael ei fabwysiadu'n gyffredinol, ac effaith bosibl y dull gweithredu hwn;
  • Yr effaith ehangach y mae astudio Bagloriaeth Cymru yn ei chael ar bynciau cwricwlwm eraill ac ar ddarpariaeth addysg;
  • Manteision ac anfanteision y cymhwyster Bagloriaeth Cymru i ddysgwyr, ysgolion a cholegau, cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Iau 20 Medi 2018. Anfonwch eich sylwadau at: SeneddPPIA@cynulliad.cymru.

Fel rhan o’r ymchwiliad hwn rydym hefyd yn defnyddio dulliau amgen o gasglu tystiolaeth er mwyn targedu cynulleidfaoedd penodol. Croeso i chi ymateb i’r rhain, os ydyn nhw’n berthnasol i chi:

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno’n ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno’n ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau i’r rhai sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.

Datgelu gwybodaeth

Gofynnwn i chi sicrhau eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol

  • Consultation Responses  

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565