Ymgynghoriad

Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)

Y cylch gorchwyl oedd i ystyried:

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad polisi a nodir. Wrth ddod i farn ar y mater hwn, efallai y byddwch am ystyried Rhannau unigol o'r Bil:
    • Rhan 2 - Gwahardd taliadau penodol ac ati
    • Rhan 3 - Ymdrin ag adneuon dros dro
    • Rhan 4 - Gorfodi
    • Rhan 5 - Adennill swm trwy ddeilydd y contract
    • Rhan 6 - Cyhoeddi ffioedd asiantaethau gosod
    • Rhan 7 – Darpariaethau Terfynol
    • Atodlen 1 - Taliadau a ganiateir
    • Atodlen 2 - Ymdrin ag adneuon dros dro
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi darpariaethau’r Bil ar waith, ac a yw’r Bil yn ystyried y rhwystrau hyn;
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 6 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol);
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bi; a
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Senedd Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Grwpiau ffocws a chyfarfodydd

Cafodd grwpiau ffocws a chyfarfodydd eu cynnal ar draws Cymru dros yr haf ar gyfer tenantiaid preifat, landlordiaid preifat ac asiantau gosod er mwyn rhoi cyfle iddynt rannu eu safbwyntiau, syniadau a phrofiadau ynglŷn â’r Bil.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565