Ymgynghoriad

Wrth eich gwaith:rhianta a chyflogaeth yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

  • Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar ganfyddiadau adolygiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar wahaniaethu mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth;
  • Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio tuag at ei hamcan cydraddoldeb strategol, sef nodi a lleihau’r achosion o anghydraddoldeb o ran cyflogaeth, sgiliau a thâl sy’n ymwneud â rhyw, yn enwedig mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth;
  • Y graddau y mae Cynllun Gweithredu Economaidd a rhaglenni cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â materion a wynebir gan famau;
  • A yw’r cynnig gofal plant newydd yn cyd-fynd â chymorth wedi’i dargedu i famau ddechrau gweithio neu ddychwelyd i’r gwaith, a
  • Graddau’r gwahaniaethu mewn perthynas â beichiogrwydd a mamolaeth yn y sector cyhoeddus yng Nghymru (ac amrywiannau rhwng gwahanol grwpiau o fenywod), ac enghreifftiau o arfer da.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565