Ymgynghoriad

Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cefndir

Cytunodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i edrych ar berthynas Cymru a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Roedd cam cyntaf gwaith y Pwyllgor Materion Allanol, rhwng Gorffennaf 2016 a Ionawr 2017, yn canolbwyntio ar nodi'r goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yng nghyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ar 14 Rhagfyr 2017, cytunodd arweinwyr yr UE27 bod cynnydd digonol wedi'i gyflawni yng ngham cyntaf trafodaethau Brexit.

Ar y sail hon, maent wedi mabwysiadu canllawiau drafft i symud i ail gam y trafodaethau lle byddant hefyd yn dechrau trafodaethau am y cyfnod pontio a'r fframwaith ar gyfer y berthynas yn y dyfodol.

Yng ngoleuni'r datblygiadau hyn, cytunodd y Pwyllgor i lansio ac ymchwilio i berthynas Cymru gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. O ran ei ddull gweithredu, cytunodd y Pwyllgor i atgyfnerthu'r gwaith a wnaed hyd yn hyn ac ychwanegu ato gyda safbwyntiau presennol y rhanddeiliaid.

Diben hyn yw galluogi craffu'n effeithiol ar fewnbwn Llywodraeth Cymru i'r trafodaethau ac i sicrhau bod y materion sy'n bwysicaf i Gymru yn cael eu cynrychioli'n ddigonol yn y trafodaethau.

Casglu tystiolaeth

Gwahoddodd y Pwyllgor Materion Allanol sylwadau ysgrifenedig a oedd yn ateb cylch gorchwyl ac amcanion yr ymchwiliad.

Y cyflwyniadau a ystyriwyd:

  • safbwynt Llywodraeth Cymru;
  • safbwynt wreiddiol y Pwyllgor, fel y'i mynegir yn ei adroddiad Y goblygiadau i Gymru wrth i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd;
  • safbwynt Llywodraeth y DU; a
  • safbwynt yr Undeb Ewropeaidd.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig oedd dydd Gwener 9 Chwefror 2018.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddMADY@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565