Ymgynghoriad
Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 10 Tachwedd 2017 a Dydd Gwener, 22 Rhagfyr 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- SP 01 Cornerstone Gwasanaethau Cymorth Cyfyngedig (Saesneg yn unig) PDF 50 KB
- SP 02 The Wallich (Saesneg yn unig) PDF 74 KB
- SP 03 Cyngor Sir Ynys Môn (Saesneg yn unig) PDF 73 KB
- SP 04 Cyngor Gwynedd (Saesneg yn unig) PDF 43 KB
- SP 05 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Saesneg yn unig) PDF 50 KB
- SP 06 Cartrefi Cymunedol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 97 KB
- SP 07 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 79 KB
- SP 08 Cyngor Sir Ddinbych (Saesneg yn unig) PDF 66 KB
- SP 09 Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Gwent (Saesneg yn unig) PDF 98 KB
- SP 10 Llamau (Saesneg yn unig) PDF 70 KB
- SP 11 Y Gweinidog Tai ac Adfywio PDF 40 KB
- SP 12 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Saesneg yn unig) PDF 45 KB
- SP 13 Sefydliad Siartredig Tai Cymru (Saesneg yn unig) PDF 67 KB
- SP 14 Cymorth i Ferched Cymru (Saesneg yn unig) PDF 602 KB
- SP 15 Tai Pawb (Saesneg yn unig) PDF 80 KB
- SP 16 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 108 KB
- SP 17 Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Saesneg yn unig) PDF 69 KB
- SP 18 Cymorth Cymru (Saesneg yn unig) PDF 135 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad
Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i Raglen Cefnogi Pobl Llywodraeth
Cymru. Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad
ar y Rhaglen Cefnogi Pobl ar 31 Awst 2017, ac
mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb
i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol.
Mae’r Pwyllgor yn
ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion ei chynlluniau cyllideb
wedi creu rhywfaint o ansicrwydd ynghylch sut y bydd y cyllid Cefnogi Pobl yn
cael ei reoli yn y dyfodol, a chaiff hyn ei ystyried fel rhan o waith y
Pwyllgor.
Bydd yr ymchwiliad yn
ystyried dulliau llywodraethu cyffredinol a rheolaeth y Rhaglen Cefnogi Pobl.
Nid oes gan y Pwyllgor rôl o ran craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ond gall
ystyried y modd y gweithredir newidiadau cyllidebol a’u heffaith.
Er mwyn helpu gyda’i
ymchwiliad, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y materion a ganlyn:
- Effaith datblygiadau polisi ehangach ar y rhaglen,
gan gynnwys:
- The overall clarity of the Programme’s objectives;
- Eglurder cyffredinol amcanion y Rhaglen;
- Goblygiadau adolygiad Llety â Chymorth Llywodraeth y DU, a’r ymateb
sy’n dod i’r amlwg iddo;
- Sut y gallai Llywodraeth Cymru wella ei dulliau cyfathrebu ynghylch y
blaenoriaethau ar gyfer y Rhaglen ac effaith datblygiadau ehangach;
- Beth fyddai’r ffordd orau i alinio gwaith y Pwyllgorau Cydweithredol
Rhanbarthol gyda threfniadau llywodraethu cydweithredol eraill;
- Y gwersi i’w dysgu yn sgîl effeithiolrwydd cymysg gwaith rhanbarthol
dros y pum mlynedd diwethaf a’i effaith;
- I ba raddau y mae’r trefniadau llywodraethu a rheoli ar gyfer y
Rhaglen yn adlewyrchu ffyrdd o weithio a ddisgwylir o dan Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
- Monitro a gwerthuso
- Sut y defnyddir data monitro / canlyniadau i lywio’r broses o wneud
penderfyniadau ynghylch gwariant ar y rhaglen ac i fonitro contractau;
- Y fframwaith canlyniadau diwygiedig y mae Llywodraeth Cymru yn ei
gynnig, ac i ba raddau y bydd yn mynd i’r afael â chyfyngiadau’r
fframwaith presennol;
- Beth yw’r ffordd orau i gyfleu unrhyw drefniadau fframwaith
canlyniadau diwygiedig a’u rhoi ar waith;
- Cyfleoedd eraill i gryfhau dulliau monitro a gwerthuso, gan gynnwys
wrth asesu gwerth cymharol am arian gwasanaethau cymaradwy.
- Dosbarthiad cyllid y Rhaglen, a chynllunio ariannol
gan gynnwys:
- Y materion y mae angen eu hystyried wrth ddatblygu a gweithredu
unrhyw fformiwla ariannu newydd;
- Sut y mae pwysau o ran y gyllideb ac ansicrwydd cyllido wedi
effeithio ar gynllunio gwasanaethau a’u darparu;
- Y rhesymau dros yr amrywiad eang a nodwyd o ran cymorth ariannol i
wahanol grwpiau cleientiaid ar draws awdurdodau lleol;
- Y rhesymau dros y newid amlwg yng nghyfran gyffredinol cronfeydd y
rhaglen a wariwyd ar gefnogaeth symudol a chefnogaeth sefydlog;
- I ba raddau y mae prosesau a gwariant ar gynllunio lleol a
rhanbarthol yn adlewyrchu anghenion y mae tystiolaeth helaeth amdanynt,
yn hytrach na phatrymau hanesyddol.
Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 22 Rhagfyr 2017. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw
ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad (1MB), mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu
defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn
ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn
ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod
wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyfrifion Cyhoeddus
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddArchwilio@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565