Ymgynghoriad

Cost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y’ Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy’n heneiddio.

Cylch gorchwyl

Diben yr ymchwiliad oedd asesu effaith ariannol y gost o ofalu am boblogaeth sy’n heneiddio, a hynny yng nghyd-destun y prif heriau economaidd a strategol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu polisi:

  • Archwilio patrymau yn y galw am wasanaethau gofal cymdeithasol i bobl oed pensiwn a'r costau cysylltiedig ar gyfer darparu gofal preswyl a dibreswyl, gan ystyried rôl gofalwyr anffurfiol sy'n darparu gwasanaethau di-dâl i'r bobl hynny y mae angen gofal arnynt;
  • Archwilio'r pwysau ariannol ar y system gofal cymdeithasol, fel cynnydd mewn cyflogau, cofrestru ar gyfer pensiynau awtomatig ac anawsterau recriwtio a chadw staff, gan gynnwys yr effeithiau ariannol cysylltiedig yn sgil y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd;
  • Ystyried effaith ariannol polisïau Llywodraeth Cymru – gan gynnwys deddfwriaeth a diwygiadau diweddar mewn cysylltiad â chyllid gwasanaethau cymdeithasol – ar awdurdodau lleol, darparwyr gofal a defnyddwyr gwasanaeth;
  • Ystyried anghenion gofal cymdeithasol yn y dyfodol a chostau cysylltiedig, gan gynnwys cynnydd a ragwelir yng nghyfran poblogaeth Cymru sydd o oed pensiwn;
  • Asesu'r dulliau ariannol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ddiwygio'r trefniadau ar gyfer ariannu gofal cymdeithasol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried modelau eraill, gan gynnwys enghreifftiau rhyngwladol, i ariannu gofal cymdeithasol i sicrhau gwasanaeth teg a chynaliadwy o safon mewn cyfnod o alw cynyddol ar y systemau gofal iechyd a gofal cymdeithasol; ac
  • Ystyried canfyddiadau a chasgliadau'r Adolygiad Seneddol.

Datgelu gwybodaeth

Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio gwybodaeth bersonol yma.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565