Ymgynghoriad

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn ceisio gwybodaeth i lywio ei ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

Cefndir

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cytuno i gynnal ymchwiliad yn edrych ar wasanaethau cyhoeddus ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal (sydd wedi, neu sydd wrthi'n 'derbyn gofal' gan awdurdod lleol o dan Ddeddf Plant 1989 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014) o fewn ei gylch gwaith o ystyried unrhyw fater sy’n ymwneud â pha mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y caiff adnoddau eu defnyddio wrth gyflawni swyddogaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cylch Gorchwyl

Mae'r Pwyllgor yn bwriadu gwneud hwn yn ymchwiliad hirdymor sy'n rhychwantu'r Pumed Cynulliad. Mae'r Pwyllgor wedi nodi pedwar maes cychwynnol a amlinellir isod:

  • Gwariant a gwerth am arian gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal; 
  • Effeithiolrwydd trefniadau rhianta corfforaethol awdurdodau lleol;
  • Gwerth am arian ac effeithiolrwydd y trefniadau presennol o ran lleoliadau gofal; 
  • Gwerth am arian y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sydd wedi bod mewn gofal.

Mae'r Pwyllgor yn bwriadu dechrau'r ymchwiliad hwn drwy ystyried y cyntaf o'r meysydd hyn, a byddai'n croesawu eich barn ar y cwestiynau penodol isod:

  • Y gost gyffredinol a gwerth am arian yr ystod o wasanaethau cyhoeddus sydd â’r nod o wella canlyniadau i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal; 
  • A yw’r canlyniadau a ddymuna Llywodraeth Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn cael eu cyflawni gan y lefelau presennol o wariant cyhoeddus; 
  • A yw maint y gwariant sy'n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal yn ddigon tryloyw ar draws yr amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus; 
  • A yw cyrff cyhoeddus wedi gosod digon o bwyslais ar ddull gwariant ataliol ar gyfer yr hirdymor, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, i sicrhau y ceir y buddiannau gorau posibl o’r gwariant cyhoeddus ar gyfer y grŵp hwn o blant.

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 15 Medi 2017. Dylech anfon eich sylwadau i:

SeneddArchwilio@Cynulliad.Cymru

Cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad (PDF 1MB), mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau i dystion sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.

Datgelu gwybodaeth

Sicrhewch eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyfrifion Cyhoeddus
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddArchwilio@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565