Ymgynghoriad

Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae diwylliant a hunaniaeth Cymru yn cael eu dylanwadu llawn cymaint gan yr hyn yr ydym yn ei fwyta ac yfed â'r iaith yr ydym yn ei siarad a'r tirluniau yr ydym yn eu mwynhau.  Mae gan Lywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol i dyfu ein diwydiant bwyd a diod a chodi proffil bwyd a diod o Gymru. Hefyd, bydd y penderfyniad i adael yr UE yn creu heriau a chyfleoedd i'r diwydiant.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i'r hyn y gallwn ei wneud i wella'r sector bwyd a diod a'n perthynas â'r bwyd yr ydym yn ei fwyta.

Felly, rydym yn gofyn sut beth fydd y dyfodol ar gyfer bwyd a diod.

Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol bwyd yng Nghymru a beth sydd angen ei wneud i gyflawni hyn?

Sut allwn ni ailfeddwl am fwyd fel bod gennym:

  • Fwyd iach, a gynhyrchir yn lleol sy'n hygyrch ac yn fforddiadwy;
  • Diwydiant bwyd arloesol sy'n cynnal swyddi o ansawdd uchel;
  • Bwyd a gynhyrchir yn gynaliadwy â safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid uchel; a
  • chyrchfan enwog yn rhyngwladol ar gyfer y rhai sy'n hoff o fwyd?

Mae croeso i chi roi gwybod i ni am unrhyw faterion eraill yr ydych yn teimlo sy'n berthnasol.

Chef plating food

Rydym eisiau clywed eich barn chi. Rhowch eich syniadau i ni drwy e-bostio SeneddNHAMG@cynulliad.cymru. Gofynnwn i'r holl gyfraniadau ein cyrraedd ni cyn 14 Medi 2017. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion a phenderfynu sut i symud yr ymchwiliad ymlaen.

Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymatebion, yn Gymraeg neu Saesneg, gan unigolion a sefydliadau. Rydym yn gofyn bod sefydliadau â'u polisïau iaith eu hunain yn darparu ymatebion dwyieithog yn unol â'r polisïau hynny.

Ni ddylai cyflwyniadau fod yn hwy na 2,000 o eiriau, a dylent gynnwys paragraffau wedi'u rhifo. Dylai ffynonellau tystiolaeth gael eu cyfeirnodi a dylid cynnwys hyperlinc lle bo hynny'n bosibl.

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565