Ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'i oblygiadau i Gymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ymgynghoriad ar y cyd oedd hwn yn ymwneud â gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Cytunodd y Pwyllgorau i gydweithio er mwyn ystyried goblygiadau’r Bil hwn i Gymru cyn cynhyrchu gwaith ar wahân.

 

Fel rhan o’r ymchwiliad, bu’r Pwyllgorau yn trafod:

 

  • ymdriniaeth o ddatganoli;
  • dirprwyo pwerau a'u rheoli;
  • prosesau craffu a rôl y deddfwrfeydd datganoledig.

 

Dyddiad cau: 10.00 dydd Llun, 4 Medi 2017.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgorau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Email: pwyllgorau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565