Ymgynghoriad

Ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Croesawodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon eich barn am unrhyw un o'r pwyntiau a ganlyn, neu am bob un ohonynt:

  • y dystiolaeth o raddfa problemau unigedd ac unigrwydd ac o'r rhesymau drostynt, gan gynnwys ffactorau fel tai, trafnidiaeth, cyfleusterau cymunedol, gwasanaethau iechyd a lles;
  • effaith unigrwydd ac unigedd ar bobl hŷn o ran iechyd a lles corfforol a meddyliol, gan gynnwys a ydynt yn effeithio'n anghymesur ar grwpiau penodol er enghraifft pobl â dementia;
  • effaith unigrwydd ac unigedd ar y defnydd o wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol;
  • ffyrdd o fynd i'r afael â phroblemau unigrwydd ac unigedd  ymhlith pobl hŷn, gan gynnwys ymyriadau i fynd i'r afael yn benodol â'r problemau a phrosiectau eraill sydd ag amcanion ehangach.  Tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio a'r canlyniadau ar gyfer pobl hŷn o ran iechyd a lles;
  • i ba raddau y gallai mentrau i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd ymhlith grwpiau eraill helpu hefyd i fynd i'r afael â'r materion hyn ar gyfer pobl hŷn;
  • atebion polisi yng Nghymru ar hyn o bryd a pha mor gosteffeithiol ydynt, gan gynnwys y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru.  Y dull gwaith a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru o ran cynnal seilwaith a chymorth cymunedol, a defnyddio'r fframwaith deddfwriaethol a grëwyd yn y Pedwerydd Cynulliad, e.e.  Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565