Ymgynghoriad

Ymchwiliad un-dydd i farw-enedigaethau yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru yn ystod 2012/13.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd i edrych yn fanwl ar faint o ymwybyddiaeth sydd o’r canllawiau a’r argymhellion cyfredol ynghylch atal marw-enedigaethau, yn arbennig marw-enedigaethau sy’n gysylltiedig â thyfiant gwael a llai o symudiadau gan y ffetws, drwy’r sectorau gwahanol. Edrych hefyd sut y mae’r canllawiau a’r argymhellion yn cael eu gweithredu a pha mor effeithiol ydynt, a phle y mae’n bosibl cymryd camau i wella pethau.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565