Ymgynghoriad

Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Pwrpas yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru).

 

Cylch Gorchwyl

  • Yr egwyddorion cyffredinol a’r angen am ddeddfwriaeth;
  • Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried.
  • A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil.
  • Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir ym Mhennod 6 o’r Memorandwm Esboniadol);
  • Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o’r Memorandwm Esboniadol).
  • A yw egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu polisi a deddfwriaeth treth datganoledig wedi cael eu dilyn, sef:
    • bod yn deg i fusnesau ac unigolion sy’n eu talu;
    • bod yn syml, gyda rheolau clir sy’n ceisio lleihau costau cydymffurfio a gweinyddu;
    • cefnogi twf a swyddi, a fydd, yn ei dro, yn helpu i fynd i’r afael â thlodi; a
    • darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr.
  • Y diffiniad o ‘warediad trethadwy’ a ‘deunyddiau cymwys’;
  • Y darpariaethau o ran sut y bydd y dreth yn cael ei chyfrifo, gan gynnwys pwysau trethadwy deunyddiau a gostyngiad yng nghyswllt cynnwys dŵr;
  • Gweithredu cyfraddau treth, ac a yw’r rhain yn cadw’r hyblygrwydd i ymdrin â newidiadau dilynol ar lefel Cymru a’r DU;
  • Yr eithriadau arfaethedig;
  • Y gostyngiadau arfaethedig;
  • Cynnwys gwarediadau o wastraff heb awdurdod mewn mannau ar wahân i safleoedd tirlenwi awdurdodedig;
  • Arolygu safleoedd at ddibenion canfod atebolrwydd person o ran y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi, a rhannu gwybodaeth rhwng Awdurdod Cyllid Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol;
  • Y dyletswyddau ar drethdalwyr i wneud taliadau ac i dalu cosbau, a llog o dan rai amgylchiadau;
  • Sut y mae cwmnïau, partneriaethau a chyrff anghorfforedig yn cael eu trin o ran y darpariaethau a’r cyfrifoldeb dros gydymffurfio;
  • Sefydlu Cynllun Cymunedau Tirlenwi fel cynllun grant yn hytrach na chredyd treth a’i ddatblygu y tu allan i’r Bil.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae gan y Cynulliad bolisi ynghylch datgelu gwybodaeth. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.  Neu, mae copi caled o’r polisi hwn i’w gael drwy gysylltu â’r Clerc (Bethan Davies - 0300 200 6372).

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565