Ymgynghoriad

Gofal sylfaenol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Croesawodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon eich barn ar unrhyw un o'r pwyntiau canlynol neu bob un ohonynt:

  • Sut y gall rhwydweithiau clwstwr meddygon teulu yng Nghymru helpu i leihau'r galw ar feddygon teulu ac i ba raddau y gall clystyrau ddarparu llwybr mwy hygyrch at ofal (gan gynnwys cymorth iechyd meddwl ym maes gofal sylfaenol).
  • Y tîm amlddisgyblaethol sy'n dod i'r amlwg (sut y mae’r gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal yn perthyn i'r model clystyrau newydd a sut y gellir mesur eu cyfraniad).
  • Yr heriau sy’n wynebu’r gweithlu presennol a’r gweithlu yn y dyfodol.
  • Y cyllid sy’n cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i glystyrau er mwyn galluogi practisau meddygon teulu i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio; sut y mae arian yn cael ei ddefnyddio i leihau'r pwysau ar bractisau meddygon teulu, gwella gwasanaethau a’r mynediad sydd ar gael i gleifion.
  • Heriau o ran llwyth gwaith a’r newid i atal sylfaenol yn y gwasanaethau a ddarperir gan feddygon teulu i wella canlyniadau iechyd y boblogaeth a thargedu anghydraddoldebau o ran iechyd. 
  • Aeddfedrwydd clystyrau a’r cynnydd gyda gwaith clystyrau mewn gwahanol Fyrddau Iechyd Lleol, gan nodi enghreifftiau o arfer gorau. 
  • Arweiniad lleol a chenedlaethol yn cefnogi datblygiad y rhwydwaith clwstwr; sut y mae'r camau a gymerir yn ategu’r rheini yng ngweledigaeth 2010 a chynllun gofal sylfaenol Llywodraeth Cymru, Gosod y Cyfeiriad .
  • Mwy o fanylion am yr agweddau sy’n cael eu gwerthuso, y cymorth sy’n cael ei ddarparu’n ganolog a'r meini prawf sydd ar waith i bennu llwyddiant neu fethiant y clystyrau, gan gynnwys sut mae mewnbwn gan gymunedau lleol yn cael ei ymgorffori yn y gwaith datblygu a phrofi sy'n cael ei wneud.

 

Canllawiau

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 3 Chwefror 2017. Anfonwch eich sylwadau at: SeneddIechyd@cynulliad.cymru

 

Polisi dwyieithog

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565