Ymgynghoriad

Ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016/17

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar unrhyw un o'r pwyntiau a ganlyn, neu ar bob un ohonynt:

 

  • y pwysau cyfredol sy'n wynebu gwasanaethau gofal heb ei drefnu, a pha mor barod yw'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer y gaeaf 2016/17;
  • a fu digon o gynnydd yn y Pedwerydd Cynulliad o ran lleihau'r pwysau ar ofal heb ei drefnu drwy fynd ati i gynllunio mewn ffordd integredig ar gyfer y gaeaf ar draws gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau ambiwlans, a'r gwersi a ddysgwyd;
  • y camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau gwelliannau cynaliadwy i wasanaethau gofal brys ac argyfwng, a'r system gyfan, gan sicrhau bod GIG Cymru yn datblygu gwydnwch i'r galw tymhorol ac i wella ei sefyllfa ar gyfer y dyfodol.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 9 Medi 2016.

 

Datgelu gwybodaeth a chanllawiau

 

Gofynnwn i chi sicrhau eich bod wedi ystyried yn ofalus polisi'r Cynulliad ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl fel y’i nodir uchod. Gweler y canllawiau i dystion sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565