Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
Sefydlwyd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mehefin 2016.
Ein cylch gwaith yw archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisi, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): diwylliant; y celfyddydau; yr amgylchedd hanesyddol; y Gymraeg; cyfathrebu; darlledu a'r cyfryngau.
Ceir rhagor o fanylion am rolau a chyfrifoldebau ehangach pwyllgorau'r Cynulliad yn yr adroddiad, 'Pwyllgorau yn y Pumed Cynulliad' (PDF 256KB), a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 23 Mehefin 2016.
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymgynghoriad
Er mwyn ei helpu i lywio'i flaenraglen waith, mae'r Pwyllgor am glywed beth yr ydych chi'n credu y dylai ei flaenoriaethau fod yn y Pumed Cynulliad.
Heb lenwi mwy na dwy ochr tudalen A4, nodwch y meysydd a ddylai fod, yn eich tyb chi, yn feysydd blaenoriaeth i'r pwyllgor, gan gynnwys unrhyw waith gan bwyllgorau blaenorol y Cynulliad y dylem ei adolygu neu y dylem ymgymryd â gwaith dilynol yn ei gylch. Dylid hefyd darllen y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau. Hoffai’r Pwyllgor gael ymatebion gan unigolion a sefydliadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Byddwn yn llunio ein rhaglen waith yn nhymor hydref 2016, felly dyma ofyn am i bob awgrymiad ein cyrraedd erbyn 1 Medi 2016.
Cyfweliad fideo: Bethan Jenkins AC (Cadeirydd) yn trafod ei hamcanion ar gyfer gwaith y Pwyllgor yn y dyfodol.
Datgelu gwybodaeth
Mae gan y Cynulliad bolisi ar ddatgelu gwybodaeth. Dylech sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Pierhead Street
Caerdydd
CF99 1NA
Email: SeneddDGCh@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565