Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Waith Ieuenctid

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Nod cyffredinol yr ymchwiliad 'ciplun' hwn oedd adolygu effeithiolrwydd strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwaith ieuenctid. Gofynnodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am sylwadau ar unrhyw un neu bob un o'r pwyntiau canlynol:

  • Mynediad pobl ifanc i wasanaethau gwaith ieuenctid;
  • Pa mor effeithiol yw strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru ar waith ieuenctid; 
  • Cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid (Awdurdod Lleol, Llywodraeth Cymru, Ewrop, Trydydd Sector);
  • Materion eraill yr ydych chi yn eu hystyried sy'n berthnasol i'r Ymchwiliad.   

 

[Noder: Ni cheisiodd yr ymchwiliad hwn dystiolaeth ar strwythurau cyfranogiad ieuenctid lleol a chenedlaethol, sy’n fater yr oedd y Pwyllgor o’r farn ei fod yn bwysig ac y byddai angen ei ystyried ymhellach o fewn ei raglen waith.]

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565