Ymgynghoriad

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Galwodd pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18. Roedd ganddynt ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran cyllideb 2017-18, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn 2017-18 ac effaith cyllideb 2016-17.

 

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn edrych yn fanwl ar yr agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyllid, gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am farn ar y cwestiynau penodol a gynhwysir yn y llythyr ymgynghori (PDF, 86KB) ac unrhyw farn gyffredinol mewn perthynas â'r gyllideb ddrafft.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn https://senedd.cymru/cymorth/preifatrwydd/hysbysiad-preifatrwydd-pwyllgorau-r-senedd/

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565