Ymgynghoriad
Etifeddiaeth Pwyllgor Cyllid y Pedwerydd Cynulliad
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2015 a Dydd Gwener, 8 Ionawr 2016
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Wrth i ni agosáu at
ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad, mae'r Pwyllgor
Cyllid yn asesu ei effaith a pha mor effeithiol fu ei waith yn ystod y
Cynulliad hwn.
Sefydlwyd y Pwyllgor ym mis
Mehefin 2011 a'i rôl yw cyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 19.
Mae hyn yn cynnwys ystyried sut y mae Comisiwn y Cynulliad neu Weinidogion
Cymru yn defnyddio adnoddau, ac yn benodol cyflwyno adroddiad yn ystod cylch
blynyddol y gyllideb. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor wedi datblygu nifer o
ffrydiau gwaith dros y pum mlynedd diwethaf sy'n cynnwys:
- Gwella'r drefn o graffu ar y
gyllideb a datblygu prosesau cyllidebol
- Craffu ar effaith ariannol
deddfwriaeth
- Goruchwylio Swyddfa Archwilio
Cymru, o safbwynt llywodraethu, fel a ragnodir yn Neddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2013
- Ymchwiliadau
Bydd y Pwyllgor yn cael
ei ddiddymu ym mis Ebrill 2016 cyn etholiadau'r Cynulliad, ac fel rhan o'i
etifeddiaeth, bydd y Pwyllgor yn edrych yn ôl ar ei raglen waith. Bydd yn
amlygu meysydd ar gyfer rhagor o waith craffu yn y Pumed Cynulliad ac yn
awgrymu ffyrdd y gall y Pwyllgor Cyllid nesaf ymgysylltu'n effeithiol â'i
randdeiliaid.
Arolwg
I gynorthwyo yn hyn o
beth, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar eich profiad o weithio gyda'r
Pwyllgor, gan gynnwys ei ffyrdd o weithio, y gwaith y mae wedi'i wneud, a'r
effaith a gafodd. Mae’r Pwyllgor wedi paratoi
arolwg.
Datgelu gwybodaeth
Mae
rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm.
Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth
i'r Pwyllgor. Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r
Clerc.
Dogfennau ategol
- Llythyr gan y Cadeirydd at Gadeirydd Cyllid Cymru - 13 Hydref 2015 PDF 139 KB
- Diweddariad gan Cyllid Cymru - Tachwedd 2015 (Saesneg yn unig) PDF 382 KB
- Lythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - 29 Hydref 2015 PDF 155 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd Cyffredinol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru - 29 Hydref 2015 PDF 168 KB
- Trosolwg o gynnydd mewn gweithredu'r Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol (Cymru) 2014 - Tachwedd 2015 (Saesneg yn unig) PDF 302 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth - 4 Tachwedd 2015 PDF 171 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at yr Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru - 4 Tachwedd 2015 PDF 171 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Weinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth - 12 Tachwedd 2015 PDF 187 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Gynghorwyr Arbenigol - 17 Tachwedd 2015 PDF 167 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565