Ymgynghoriad

Ymchwiliad y Pwyllgor i'r Bil Cymru Drafft

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cytunodd Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i gynnal ymchwiliad i'r Bil Cymru drafft, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015.  

Rydym yn ddiolchgar am eich sylwadau ar y Bil drafft ac am roi sylw i'r pwyntiau canlynol, sy'n ffurfio ein cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad:

Ystyried

  • y graddau y mae'r model cadw pwerau arfaethedig o gymhwysedd deddfwriaethol yn glir, yn gydlynol ac ymarferol, ac yn darparu fframwaith cryf i alluogi'r Cynulliad i ddeddfu o'i fewn;
  • y profion ar gyfer penderfynu ar gymhwysedd fel y nodir yn adran 3 ac Atodlenni 1 a 2 i'r Bil drafft;
  • y graddau y mae'r fframwaith newydd arfaethedig yn newid ehangder cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu;
  • y pwerau deddfwriaethol arfaethedig sydd ar gael mewn meysydd pwnc penodol o ganlyniad i Atodlenni 1 a 2 i'r Bil drafft;
  • y cynigion i'r Cynulliad gael pwerau dros ei weithrediad (er enghraifft, mewn cysylltiad â'i enw, nifer yr Aelodau Cynulliad a phwerau etholiadol ar gyfer y Cynulliad);
  • y pwerau ychwanegol i'w rhoi i Weinidogion Cymru, yn enwedig i wneud is-ddeddfwriaeth;
  • y cynigion a gynhwysir mewn perthynas â pharhauster y Cynulliad a Llywodraeth Cymru;
  • y cynigion a gynhwysir mewn perthynas â'r confensiwn ynghylch Senedd y DU yn deddfu ar faterion datganoledig; ac
  • goblygiadau'r Bil drafft ar gyfer cyfansoddiad y Deyrnas Unedig;
  • unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r pwerau deddfwriaethol sydd eu hangen ar y Cynulliad i ddeddfu'n effeithiol. 

Gwyddom fod y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig hefyd yn cynnal ymchwiliad ar y Bil. Er mwyn osgoi dyblygu, mae croeso ichi gyflwyno yr un dystiolaeth i ni ag yr ydych yn bwriadu ei chyflwyno (neu eisoes wedi'i chyflwyno) i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig.

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu'n Saesneg gan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.

Datgelu gwybodaeth

Gellir gweld polisi'r Cynulliad ar ddatgelu gwybodaeth ar wefan y Cynulliad. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Fel arall, mae croeso i chi gysylltu â'r Clercod ar y rhifau isod i ofyn am gopi caled o'r polisi hwn.

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddMCD@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565