Ymgynghoriad

Gwaith dilynol ar Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Wasanaethau Mabwysiadu yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gofyn am sylwadau ar y cynnydd a wnaed ers iddo gyhoeddi’r adroddiad mabwysiadu ym mis Tachwedd 2012.

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i helpu ei ymgynghoriad. Yn arbennig, hoffem eich gwahodd i gyflwyno gwybodaeth am y canlynol:

  • Cynnydd Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r 16 argymhelliad a’r 25 ‘cam gweithredu manwl’ a nodir ar dudalennau 5-11 yn adroddiad y Pwyllgor (PDF 1.03MB);
  • Recriwtio, asesu a pharatoi rhieni sy’n mabwysiadu;
  • Y broses baru a chymorth ar gyfer trosglwyddo;
  • Gwybodaeth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc, gan gynnwys gwaith cofnodi profiadau bywyd; a
  • Chymorth ar ôl mabwysiadu i blant, pobl ifanc a theuluoedd (gan gynnwys cymorth gan wasanaethau cymdeithasol, addysg, iechyd a gwasanaethau iechyd meddwl).

 

Sut i ymateb: Defnyddiwch y ffurflen ymgynghori hon.

Diwrnod cau: Dydd Gwener 20 Tachwedd 2015.

 

Bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar ar ddechrau 2016.

 

Polisi dwyieithog

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565