Ymgynghoriad

Dyfodol Ynni Craffach i Gymru?

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i sicrhau dyfodol ynni gwell i Gymru.

Diben yr ymgynghoriad hwn

Diben yr ymgynghoriad hwn yw bod yn sail i farn y Pwyllgor ar sut dylid datblygu polisi ynni yng Nghymru yn y Cynulliad nesaf a thu hwnt, yng nghyd-destun cyflawni ymrwymiadau Cymru o ran cyfrannu at atal tymheredd cyfartalog y byd rhag codi mwy na 2° Celsius.

Cylch gorchwyl

Gan ddechrau o'r sail bod angen i Gymru leihau ei allyriadau carbon ar frys os yw am gyfrannu at atal tymheredd cyfartalog y byd rhag codi mwy na 2° Celsius, a'r angen i wella diogelwch ynni yng Nghymru, byddwn yn anelu at gyrraedd barn ar:

  • sut y gall Cymru sicrhau dyfodol ynni gwell, gan gynnwys cyflenwi ynni carbon isel, rheoli'r galw am ynni a storio ynni, a hynny yn ddigon cyflym i sicrhau'r gostyngiadau angenrheidiol mewn allyriadau;
  • a all y fframwaith rheoleiddio a'r seilwaith presennol sicrhau'r newidiadau hyn yn unol â'r cyflymder angenrheidiol;
  • y camau y mae angen i ddinasyddion a'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector eu cymryd; a'r
  • cydbwysedd o ran cymhwysedd datganoledig yn y maes polisi hwn.

Cwestiynau

Y cymysgedd ynni

  • A allwn ddatgarboneiddio ein system ynni yn ddigon cyflym i sicrhau'r gostyngiadau angenrheidiol yn yr allyriadau?
  • Pa gymysgedd o adnoddau cynhyrchu gwasgaredig fyddai orau ar gyfer diwallu anghenion ynni adnewyddadwy Cymru mewn perthynas â chyflenwi a) trydan, b) nwy, c) gwres?

Y grid

  • Sut mae rhwydwaith dosbarthu grid Cymru yn galluogi neu gyfyngu ar ddatblygu system ynni fwy craff newydd?
  • Pa newidiadau fyddai eu hangen o ran perchenogaeth, rheoleiddio, gweithredu a buddsoddi?

Storio

  • Sut ellir defnyddio mecanweithiau storio ynni i oresgyn y rhwystrau o ran cynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy?

Perchnogaeth

  • Ymchwilio'r awydd a pha mor ymarferol fyddai mwy o berchenogaeth gyhoeddus a pherchnogaeth gymunedol dros seilwaith cynhyrchu, trawsyrru a dosbarthu, a goblygiadau newid o'r fath.

Effeithlonrwydd ynni a lleihâd yn y galw

  • Sut y gellir defnyddio'r system gynllunio a'r rheoliadau adeiladu i wella effeithlonrwydd ynni tai (rhai a adeiladwyd o'r newydd a'r stoc sydd eisoes yn bodoli)?
  • Beth fyddai'r effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd pe byddai Cymru yn gosod safonau effeithlonrwydd ynni uwch ar gyfer tai sy'n cael eu hadeiladu o'r newydd? (er enghraifft, Passivhaus neu Energy Plus)

Cymunedau - llunio achos dros newid

  • Sut all cymunedau, busnesau a diwydiant gyfrannu at drawsnewid y ffordd y mae Cymru yn meddwl am ynni?  Ai'r ateb i'r her hon yw galluogi cymunedau i gymryd mwy o gyfrifoldeb am fodloni eu hanghenion ynni yn y dyfodol?

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. 

Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor yr hydref 2015, felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cyfraniad a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar, os cewch wahoddiad i wneud hynny.  

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus. Rhowch wybod inni os oes gennych unrhyw wrthwynebiad inni gyhoeddi eich tystiolaeth.  Gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo.  Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fo’n berthnasol, yn unol â’u polisïau ynghylch gwybodaeth i'r cyhoedd. 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig at SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru  Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 4 Medi 2015 ac, yn ddelfrydol, ni ddylai fod yn hwy na phedwar tudalen A4, dylid rhifo'r paragraffau a dylid ei chyflwyno mewn fformat Word.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad, gohebiaeth a dogfennau ysgrifenedig perthnasol eraill yn cael eu cyhoeddi ar waelod y dudalen hon.

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Chlerc y Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565