Ymgynghoriad

Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Gofynnodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am dystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru).

 

Beth y mae'r Bil hwn yn gobeithio ei gyflawni?

Mae'r Bil yn nodi cyfres o gynigion mewn meysydd blaenoriaeth yng nghyd-destun polisi iechyd cyhoeddus.

 

Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

Tybaco a chynhyrchion nicotin

  • Cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin fel sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus a mannau gwaith caeedig a sylweddol gaeedig, gan sicrhau bod y defnydd o'r dyfeisiau hyn yn cyd-fynd â'r darpariaethau presennol ar gyfer ysmygu.
  • Creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin.
  • Ychwanegu troseddau at y drefn Gorchymyn Mangreoedd o dan Gyfyngiad. (Mae'r Gorchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yn gwahardd gwerthu cynhyrchion tybaco mewn mangre).
  • Gwahardd rhoi tybaco neu gynhyrchion nicotin i bobl dan 18 oed.

Triniaethau arbennig

  • Creu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr a busnesau sy'n darparu 'triniaethau arbennig', sef aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatwio.
  • Cyflwyno gwaharddiad ar dyllu rhannau personol o'r corff i bobl o dan 16 oed.

Gwasanaethau fferyllol

  • Newid y modd y mae byrddau iechyd yn gwneud penderfyniadau am wasanaethau fferyllol drwy sicrhau bod y penderfyniadau hyn yn seiliedig ar asesiadau o angen fferyllol yn eu hardaloedd.

Darpariaeth toiledau

  • Gosod gofyniad ar awdurdodau lleol i baratoi strategaethau lleol ar gyfer darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd, a mynediad atynt, yn seiliedig ar anghenion eu cymunedau. 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol (PDF, 3MB) cysylltiedig.

 

Beth yw rôl y Pwyllgor?

Rôl y Pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a'r angen am ddeddfwriaeth, a chyflwyno adroddiad ar hyn. Mae'r Pwyllgor wedi cytuno ar y cylch gorchwyl a ganlyn ar gyfer ei waith:

 

Ystyried:

  • Yr angen am ddeddfwriaeth yn y meysydd canlynol -
    • Cyfyngu ar y defnydd o dybaco a dyfeisiau mewnanadlu nicotin fel sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus a mannau gwaith caeedig a sylweddol gaeedig, a rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn ymestyn y cyfyngiadau i fannau agored penodol;   
    • Creu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin;
    • Rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ychwanegu at y troseddau sy'n cyfrannu at Orchymyn Mangre o dan Gyfyngiad yng Nghymru;
    • Gwahardd rhoi tybaco neu gynhyrchion nicotin i bobl o dan 18 oed;
    • Creu cynllun trwyddedu gorfodol ar gyfer ymarferwyr a busnesau sy'n darparu 'triniaethau arbennig', sef aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatwio;
    • Cyflwyno gwaharddiad ar dyllu rhannau personol o'r corff i bobl o dan 16 oed;
    • Newid y trefniadau ar gyfer penderfynu ar geisiadau gan wasanaethau fferyllol i gael eu cynnwys ar restr fferyllol Byrddau Iechyd Lleol, i system sy'n seiliedig ar anghenion fferyllol cymunedau lleol;
    • Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynllunio sut y byddant yn diwallu anghenion eu cymunedau o ran cael mynediad i gyfleusterau toiled i'r cyhoedd eu defnyddio.
  • Unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu'r darpariaethau hyn ac a yw'r Bil yn eu hystyried y rhwystrau hynny;
  • Ystyried a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;
  • Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol - yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy'n amcangyfrif costau a manteision gweithredu'r Bil);
  • Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 Rhan 1 o'r Memorandwm Esboniadol, sy'n cynnwys tabl sy'n crynhoi pwerau Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth); ac
  • Y graddau y mae’r Bil yn cyd-fynd â blaenoriaethau o ran gwella iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

 

Y Cadeirydd, David Rees AC, yn siarad am yr ymgynghoriad.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565