Ymgynghoriad
Bil Llywodraeth Leol (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 28 Ionawr 2015 a Dydd Gwener, 13 Mawrth 2015
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- LG 01 Cymdeithas Llywodraeth Leol y Cymru a SOLACE Cymru (Saesneg yn unig) PDF 95 KB Gweld fel HTML (1) 35 KB
- LG 01a Cais gan y Pwyllgor am wybodaeth ychwanegol gan y Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru PDF 696 KB
- LG 01b Ymateb gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 70 KB Gweld fel HTML (3) 21 KB
- LG 02 Uno’r Undeb (Cymru) (Saesneg yn unig) PDF 118 KB Gweld fel HTML (4) 21 KB
- LG 03 UNISON Cymru (Saesneg yn unig) PDF 140 KB Gweld fel HTML (5) 22 KB
- LG 03a Gwybodaeth ymchwanegol gan Unison Cymru (Saesneg yn unig) PDF 219 KB Gweld fel HTML (6) 65 KB
- LG 04 GMB Cymru a de orllewin Lloegr (Saesneg yn unig) PDF 113 KB Gweld fel HTML (7) 16 KB
- LG 05 Estyn PDF 55 KB Gweld fel HTML (8) 10 KB
- LG 06 Cyngor Tref y Trallwng (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- LG 07 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- LG 08 Archwilydd Cyffredinol Cymru PDF 2 MB
- LG 08a Gwybodaeth ychwanegol gan yr Archwilydd Cyffredinol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 1013 KB
- LG 09 Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru PDF 167 KB Gweld fel HTML (13) 67 KB
- LG 10 Prif Gwnstabliaid yng Nghymru (Saesneg yn unig) PDF 22 KB Gweld fel HTML (14) 4 KB
- LG 11 Grwp Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol Llywodraeth Leol (Cymru) (Saesneg yn unig) PDF 155 KB Gweld fel HTML (15) 39 KB
- LG 12 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Saesneg yn unig) PDF 274 KB Gweld fel HTML (16) 10 KB
- LG 13 Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (Saesneg yn unig) PDF 29 KB Gweld fel HTML (17) 5 KB
- LG 14 Comisiynydd y Gymraeg PDF 194 KB Gweld fel HTML (18) 50 KB
- LG 15 Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru (Saesneg yn unig) PDF 28 KB Gweld fel HTML (19) 19 KB
- LG 16 Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 50 KB Gweld fel HTML (20) 10 KB
- LG 17 RNIB Cymru (Saesneg yn unig) PDF 207 KB Gweld fel HTML (21) 14 KB
- LG 18 Gwasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (Saesneg yn unig) PDF 437 KB
- LG 19 Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (Saesneg yn unig) PDF 618 KB
- LG 20 Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig) PDF 86 KB Gweld fel HTML (24) 31 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Cymunedau,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion
cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru).
Rhoddodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus datganiad rhagarweiniol
ar y Bil mewn cyfarfod llawn ar 27 Ionawr. Gellir gweld cofnod y trafodion yn:
Cylch
gorchwyl
Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:
Ystyried—
- egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth
Leol (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i:
- alluogi paratoadau i gael eu gwneud ar gyfer
rhaglen o uno a diwygio llywodraeth leol;
- caniatáu i Brif Awdurdodau Lleol uno yn
wirfoddol erbyn mis Ebrill 2018;
- diwygio darpariaeth ym Mesur Llywodraeth
Leol (Cymru) 2011 yn ymwneud â’r Panel Taliadau Annibynnol Cymru a’r
arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus i gael eu hethol yn
gynghorwyr;
- diwygio darpariaeth yn Neddf Llywodraeth
Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn ymwneud ag adolygiadau etholiadol.
- unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r
darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried,
- a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn
deillio o’r Bil,
- goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn
Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol,
- priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion
Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r
Memorandwm Esboniadol).
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth
ysgrifenedig i gynorthwyo â’i waith o ystyried y Bil. Byddai’n ddefnyddiol pe
gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb. Os ydych yn
ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn
Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg
ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd
y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau
tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y
byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofynnwn ichi sicrhau eich
bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCCLLL@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565