Ymgynghoriad

Bil Llywodraeth Leol (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru).

 

Rhoddodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus datganiad rhagarweiniol ar y Bil mewn cyfarfod llawn ar 27 Ionawr. Gellir gweld cofnod y trafodion yn:

http://www.cynulliad.cymru/cy/bus-home/pages/rop.aspx?meetingid=3103&assembly=4&c=Record of Proceedings#195827

 

Cylch gorchwyl

 

Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:

 

Ystyried—

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i:
    • alluogi paratoadau i gael eu gwneud ar gyfer rhaglen o uno a diwygio llywodraeth leol;
    • caniatáu i Brif Awdurdodau Lleol uno yn wirfoddol erbyn mis Ebrill 2018;
    • diwygio darpariaeth ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ymwneud â’r Panel Taliadau Annibynnol Cymru a’r arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus i gael eu hethol yn gynghorwyr;
    • diwygio darpariaeth yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn ymwneud ag adolygiadau etholiadol.
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried,
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil,
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol,
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo â’i waith o ystyried y Bil. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCCLLL@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565