Ymgynghoriad

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i werth am arian o ran cynnal a chadw a gwella rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd Cymru. Er mwyn helpu gyda’i ymchwiliad, byddai’r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y materion a ganlyn.

 

A yw dulliau Llywodraeth Cymru o roi prosiectau mawr ar waith i wella cefnffyrdd yn sicrhau gwerth am arian, gan gynnwys:

  • Pa mor effeithiol yw dulliau Llywodraeth Cymru o gynllunio a phrisio cynlluniau;
    • Sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi prosiectau ar waith ac yn eu gwerthuso;
    • Sut y gallai wella’r modd y mae’n cynllunio prosiectau ac yn eu rhoi ar waith.
  • I ba raddau y mae’r dulliau presennol o gynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith drwy’r Asiantau Cefnffyrdd wedi sicrhau gwerth am arian;
  • Sut y gellir gwella swyddogaethau’r Asiantau Cefnffyrdd o ran cynnal a chadw a gwella cefnffyrdd, a hynny yng nghyd-destun adolygiad Llywodraeth Cymru o’r asiantau hyn. 

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.

 

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig, (nid ar ffurf dogfen PDF, yn ddelfrydol) i SeneddPAC@Cynulliad.Cymru

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at yr isod:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd,

CF99 1NA.

 

Dylai sylwadau gyrraedd erbyn dydd Mawrth, 13 Chwefror 2015. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx.  Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Neu, gallwch ofyn i’r Clerc anfon copi caled o’r polisi atoch (0300 200 6565).

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddArchwilio@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565