Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i waith athrawon cyflenwi.

 

Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn clywed am:

 

  • Gyffredinolrwydd y defnydd o athrawon cyflenwi, wedi’i gynllunio a heb ei gynllunio;
  • Yr amgylchiadau pan ddefnyddir athrawon cyflenwi (gan gynnwys pwy sy’n eu defnyddio; yr amgylchiadau pan y’u defnyddir; y math o weithgareddau dysgu sy’n digwydd dan oruchwyliaeth athrawon cyflenwi; a ydynt yn gymwys i ddysgu pynciau perthnasol);
  • Yr effaith ar ganlyniadau disgyblion o ganlyniad i ddefnyddio athrawon cyflenwi (gan gynnwys unrhyw effaith ar ymddygiad disgyblion);
  • Datblygiad Proffesiynol Parhaus athrawon cyflenwi ac effaith bosibl y Model Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol;
  • Rheoli perfformiad athrawon cyflenwi;
  • A oes gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ddigon o oruchwyliaeth dros y defnydd o athrawon cyflenwi;
  • Amrywiaeth leol a rhanbarthol yn y defnydd o athrawon cyflenwi;
  • Asiantaethau cyflenwi a sicrhau ansawdd;
  • Unrhyw faterion penodol yn ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo ei waith o graffu ar yr ymchwiliad. Yn benodol, byddem yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau a restrir ar y ffurflen atodedig, y dylid ei defnyddio i gyflwyno eich tystiolaeth.

 

Arolwg

 

Fel rhan o'r ymchwiliad, byddai'r Pwyllgor yn hoffi gwybod a yw'r defnydd o athrawon cyflenwi yn effeithio ar ddisgyblion, ac os ydyw, pa effaith a gaiff. Mae’r Pwyllgor wedi paratoi arolwg ar gyfer pobol ifanc ac arolwg ar wahan ar gyfer rhieni a gofalwyr.

 

Arolwg ar gyfer pobol ifanc: https://www.surveymonkey.com/s/pi-gwaith-athrawon-cyflenwi

Arolwg ar gyfer rhieni a gofalwyr: https://www.surveymonkey.com/s/ymchwiliad-i-waith-athrawon-cyflenwi

 

Datgelu gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc

 

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565