Ymgynghoriad

Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gwahodd tystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru). I gynorthwyo ei waith, byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn am y pwnc hwn.

 

Beth yw Bil?

 

Cyfraith arfaethedig yw Bil. Ar ôl i'r Cynulliad ystyried a phasio Bil, ac ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines, mae'n dod yn “Ddeddf y Cynulliad”.

 

Mae pedwar cyfnod i'r broses o ystyried Bil. Yng Nghyfnod 1, mae pwyllgor yn ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil (sy'n cynnwys cymryd tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar gan rai sydd â diddordeb a chan randdeiliaid), a'r Cynulliad yn cytuno i'r egwyddorion cyffredinol hynny.

 

Beth y mae'r Bil hwn yn gobeithio ei gyflawni?

 

Prif amcan polisi y Bil yw rhoi i bobl yng Nghymru y wybodaeth a'r gallu ariannol angenrheidiol sydd eu hangen arnynt i reoli eu hamgylchiadau ariannol yn effeithiol. Wrth wneud hynny, bydd y cynigion yn helpu i gynyddu ffyniant yng Nghymru drwy wella addysg ariannol a gallu ei dinasyddion.

 

Mae cynigion y Bil yn perthyn i dri chategori eang:

 

  • Bydd y Bil yn gwella gallu ariannol ymysg plant a phobl ifanc oed ysgol (8 i 16 oed) drwy ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol bod addysg ariannol yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm ysgol (adrannau 4 i 7 yn y Bil).

 

  • Bydd y Bil yn cryfhau rôl awdurdodau lleol gan helpu pobl i osgoi mynd i drafferthion ariannol, drwy ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fabwysiadu strategaeth cynhwysiant ariannol (adrannau 8 i 10 yn y Bil).

 

  • Bydd y Bil yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol o ran darparu cyngor a threfnu i roi cyngor am reolaeth ariannol, yn gyffredinol ac yn benodol o ran plant 16 neu 17 oed sy’n derbyn gofal, plan a fu'n derbyn gofal yn flaenorol a myfyrwyr (adrannau 11 i 13 yn y Bil).

 

Mae'r Bil a'r Memorandwm Esboniadol ar gael ar wefan y Cynulliad drwy ddilyn y linc canlynol:

www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=9333

 

Beth yw rôl y Pwyllgor?

 

Rôl y Pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chyflwyno adroddiad arnynt. Yn hynny o beth, mae'r Pwyllgor wedi cytuno ar gylch gorchwyl, sef:

 

Trafod:

 

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth er mwyn cyflawni'r amcanion polisi a nodwyd yn y Bil;

 

  • prif ddarpariaethau'r Bil ac a ydynt yn briodol i gyflawni'r amcanion a nodwyd ynddo;

 

  • unrhyw rwystrau posibl i roi'r prif ddarpariaethau ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;

 

  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol, sef yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy'n amcangyfrif y costau a'r buddion o roi'r Bil ar waith); a

 

  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn nhudalennau 47 i 48 o'r Memorandwm Esboniadol).

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo ei waith o graffu ar y Bil. Yn benodol, byddem yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau a restrir yn Atodiad 1.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o'ch sylwadau at: PwyllgorPPI@cymru.gov.uk a nodi'r teitl a ganlyn ar yr e-bost, “Ymgynghoriad – Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru).”

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Sarah Bartlett, Dirprwy Glerc

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai unrhyw sylwadau gyrraedd erbyn 3 Hydref 2014. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Wrth baratoi eich sylwadau, cadwch y canlynol mewn cof:

 

  • dylai eich ymateb gyfeirio at y materion sydd gerbron y Pwyllgor, a dylai fod yn weddol fyr (dim mwy na 4 neu 5 tudalen). Gofynnwn i chi roi'r teitl a nodir uchod ar eich tystiolaeth;

 

  • bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel rheol yn sicrhau bod ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar gael yn gyhoeddus, ac efallai y cânt eu gweld a’u trafod gan Aelodau’r Cynulliad mewn cyfarfodydd pwyllgor. Os nad ydych am i’ch ymateb na’ch enw gael eu cyhoeddi, mae’n bwysig eich bod yn nodi hynny’n glir wrth gyflwyno’r dystiolaeth;

 

  • nodwch ai ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad yr ydych; a

 

  • nodwch a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar i'r Pwyllgor. (Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor yn debygol o glywed tystiolaeth lafar yn ystod mis Medi a mis Hydref 2014).

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad. Mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â'u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ysgrifenedig ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod y dyddiadau uchod.

 

Er gwybodaeth, mae'r Pwyllgor wedi gwahodd amrywiaeth eang o sefydliadau i roi sylwadau, ac mae rhestr o'r rhain ar gael ar gais. Fodd bynnag, byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn ymlaen at unrhyw unigolyn neu sefydliad y credwch yr hoffent gyfrannu at yr adolygiad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

 

Datgelu gwybodaeth 

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.assemblywales.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc.

 

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Gareth Rogers, Clerc y Pwyllgor ar 029 2089 8409 neu Sarah Bartlett, y Dirprwy Glerc ar 029 2089 8429.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565