Ymgynghoriad

Cyllideb Ddrafft y Llywodraeth Cymru 2015-16

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor wedi galw am dystiolaeth ar gyfer cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 10 Medi 2014.

 

Mae pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. Mae gennym ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran cyllideb 2015-16, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn 2015-16 ac effaith cyllideb 2014-15. 

 

Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd cynigion y gyllideb ddrafft, gan na fyddant yn cael eu cyhoeddi tan fis Medi/Hydref 2014. Fodd bynnag, cyhoeddwyd dyraniadau dangosol ar gyfer blwyddyn ariannol 2015-16 yn y Gyllideb Derfynol 2014-15.

 

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn edrych yn fanwl ar yr agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyllid, gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Bethan Davies