Ymgynghoriad

Sylweddau seicoweithredol newydd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y meysydd canlynol fel rhan o’i ymchwiliad:

  • Sut i godi ymwybyddiaeth o’r niwed sy’n gysylltiedig â’r defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd ymhlith y cyhoedd a’r rhai sy’n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus perthnasol. 
  • Gallu gwasanaethau lleol ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r niwed sy’n gysylltiedig â’r defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd, ac i ymdrin ag effaith y niwed hwn.
  • Effeithiolrwydd y dulliau o gasglu data ac adrodd ar y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd yng Nghymru, a’u heffeithiau.
  • Y dulliau deddfwriaethol posibl o fynd i’r afael â’r mater o sylweddau seicoweithredol newydd, ar lefel Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
  • Pa mor effeithiol y caiff y dull partneriaeth i fynd i’r afael â’r mater o sylweddau seicoweithredol newydd yng Nghymru ei gydlynu, o fewn Cymru a rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
  • Tystiolaeth ryngwladol am ddulliau gweithredu a ddefnyddiwyd o ran sylweddau seicoweithredol newydd mewn gwledydd eraill.

 

I’w nodi: Mae sylweddau seicoweithredol newydd (y cyfeirir atynt yn aml fel “cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”) yn gyffuriau sydd wedi’u cyfuno i ddynwared effeithiau cyffuriau anghyfreithlon ac sy’n cael eu ceisio ar gyfer defnydd meddwol. Oherwydd eu bod newydd eu creu, nid ydynt yn cael eu rheoli yn awtomatig o dan ddeddfwriaeth cyffuriau (yn y DU, Deddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971). Gall y term hefyd gynnwys sylweddau o darddiad llysieuol (“cyffuriau penfeddwol llysieuol”).

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565