Ymgynghoriad
Dyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mawrth, 30 Gorffennaf 2013 a Dydd Gwener, 13 Medi 2013
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r
Pwyllgor Menter a Busnes yn cynnal
ymchwiliad i ddyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
Mae
cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:
- Pa wersi y gellir eu dysgu o'r fasnachfraint bresennol?
- Pa flaenoriaethau y gellir eu nodi i sicrhau bod gwasanaethau i
deithwyr rheilffyrdd yng Nghymru a'r gororau yn darparu'r gwasanaeth gorau
posibl i deithwyr o 2018 ymlaen?
- Sut y gall gwasanaethau ar ôl 2018 sicrhau cysylltedd a gwerth am
arian i deithwyr a lleihau baich ar y trethdalwyr?
Y materion allweddol
Mae'r
materion y mae'r Pwyllgor yn eu hystyried fel rhan o'r cylch gwaith hwn yn
cynnwys:
- A yw'r fasnachfraint bresennol yn diwallu anghenion teithwyr a pha wersi
y gellir eu dysgu ohoni?
- Sut y dylid cynnwys teithwyr yn y gwaith o ddatblygu a chyflawni'r
fasnachfraint?
- Sut y dylid cynnwys cymunedau a llywodraeth leol / Consortia
Trafnidiaeth Rhanbarthol? A ellid eu cynnwys yn y gwaith o bennu'r
fasnachfraint neu hyd yn oed ddarparu gwasanaethau?
- Pa fodel rheoli y dylid ei fabwysiadu, gan gynnwys cynnig Llywodraeth
Cymru ar gyfer masnachfraint ddi-ddifidend?
- Sut y dylai manyleb y fasnachfraint wella profiad teithwyr, gan
gynnwys materion fel hyd y fasnachfraint, targedau / cymhellion a'r
safonau gwasanaeth craidd y dylid eu cynnwys?
- Pa lwybrau, yn arbennig llwybrau trawsffiniol, y dylid eu cynnwys?
- Pa gerbydau y bydd eu hangen ar gyfer y fasnachfraint newydd? Pa
ffactorau y mae angen eu hystyried a sut y dylid caffael y cerbydau hyn? A
fydd angen cerbydau newydd?
- A oes angen rheilffyrdd ychwanegol, gwella rheilffyrdd presennol,
gorsafoedd newydd neu seilwaith arall?
- A oes modd i'r fasnachfraint gefnogi gwell perthynas rhwng Network
Rail a gweithredwr y fasnachfraint a pha fanteision posibl a ddaw yn sgil
hyn?
Dogfennau ategol