Ymgynghoriad

Yr economi werdd

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

 

Galwodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig  am dystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ei ymchwiliad i'r economi werdd. Mae’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar y cyfleoedd economaidd posibl a'r heriau sy'n ymwneud â'r economi werdd, a'r camau ymarferol y bydd angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd mewn perthynas â'r rhain, gan weithio gydag eraill yn aml.

 

Sut i rannu eich barn

 

Roedd y Pwyllgor yn croesawu eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion y cyfeirir atynt yn y cylch gorchwyl isod:

>>>> 

>>>O fewn ei phwerau datganoledig, beth ddylai blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru fod, i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd economaidd posibl o sectorau’r economi werdd? I ba raddau y mae ei dull presennol yn adlewyrchu'r rhain?

>>>Beth yw’r rhwystrau allweddol i Gymru o ran gwneud y gorau o gyfleoedd yn yr economi werdd, a pha gamau y dylid eu cymryd i’w goresgyn?

>>>Pa gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cadwyni cyflenwi yng Nghymru yn sectorau’r economi werdd?

>>>Pa heriau o ran sgiliau sy’n bodoli mewn perthynas â phontio i economi werdd? Pa gamau y dylid eu cymryd, a phwy ddylai eu cymryd, i sicrhau bod y sgiliau yno i fodloni gofynion cynyddol economi werdd?

>>>Beth fydd ei angen ar weithwyr a chyflogwyr ar gyfer pontio teg i economi Sero Net, a pha gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i gyflawni’r elfennau o hyn sydd o fewn ei phwerau datganoledig?

>>>Ym mha ffyrdd y bydd angen i Lywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth ag eraill i wireddu potensial yr economi werdd a sicrhau cyfnod pontio teg? I ba raddau y mae'r gwaith partneriaeth sydd ei angen yn cael ei wneud?

>>>Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn wynebu cyfyngiadau cyllidebol sylweddol yn y tymor byr. Sut y dylai flaenoriaethu buddsoddi i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r economi werdd yn y tymor byr a’r tymor hwy? Pa ddulliau ariannu arloesol y gellid eu hystyried i wneud y mwyaf o fuddsoddiad a buddion posibl?

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau ysgrifenedig oedd dydd Iau 7 Mawrth 2024.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565