Ymgynghoriad
Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 21 Rhagfyr 2023 a Dydd Gwener, 1 Mawrth 2024
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- FIR_01 - Dr Anderson, Prifysgol John Moores Lerpwl (Saesneg yn unig) PDF 207 KB
- FIR_02 - Cyngor Cymuned Llanllyfni PDF 98 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor
Cyllid yn cynnal ymchwiliad i Gysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol
Cylch gorchwyl
Bydd y Pwyllgor
yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
>>>>
>>>Ystyried
effeithiolrwydd y strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol newydd o ran mynd
i'r afael â'r egwyddorion ar gyfer cydweithio ar faterion cyllidol.
>>>Archwilio
cryfderau a gwendidau'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid.
>>>Deall
sut y mae Llywodraeth y DU yn cyfathrebu â gweinyddiaethau datganoledig
ynghylch digwyddiadau cyllidol, yn benodol, sut y gellid cyfathrebu ynghylch
cyllid canlyniadol Barnett mewn modd tryloyw ac amserol.
>>>Archwilio
pa brosesau y gellid eu rhoi ar waith i wella dylanwad y Pwyllgor, fel rhan o’r
ddeddfwrfa, o ran craffu ar strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol.
>>>Ymchwilio
i’r mecanweithiau datrys anghydfodau ac a ydynt yn addas at y diben, yn
benodol, y broses datrys anghydfodau sy’n gysylltiedig â’r fframwaith cyllidol
a gweithredu trethi datganoledig newydd.
>>>Archwilio
enghreifftiau rhyngwladol o strwythurau cysylltiadau rhynglywodraethol a nodi
meysydd o arfer da yn ymwneud â chydweithio ar faterion cyllidol.
<<<<
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565