Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Urddas a Pharch

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal ymchwiliad i Urddas a Pharch.

Cytunodd y Senedd ar bolisi urddas a pharch yn 2018 a oedd yn amlinellu’r hawl i bawb deimlo’n ddiogel ac wedi’u hamddiffyn wrth ryngweithio â’r Senedd. Roedd y polisi hwn yn berthnasol i Aelodau o’r Senedd, eu staff cymorth, a staff y Comisiwn. Ochr yn ochr â hyn, cynhaliodd Pwyllgor Safonau Ymddygiad y Bumed Senedd ymchwiliad i 'Creu'r Diwylliant Cywir' a oedd yn ceisio sicrhau bod diwylliant y Senedd yn un cadarnhaol ac agored.

 

Bum mlynedd ar ôl y gwaith, mae'r Pwyllgor yn awyddus i adolygu'r cynnydd a wnaed yn y maes hwn, sicrhau bod y sgwrs yn y maes hwn yn parhau, ac ystyried a ellid cymryd camau pellach.

 

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn ac unrhyw beth arall ar y pwnc rydych chi'n ei ystyried sy’n berthnasol. Cyflwynwch eich ymateb erbyn 22 Ionawr 2024 i Seneddsafonau@Senedd.cymru

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddStandards@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565