Ymgynghoriad

Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): barn plant a phobl ifanc

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Biliau Diwygio yn edrych ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar hyn o bryd.

Mae'r Pwyllgor wedi lansio ymgynghoriad i lywio ei waith, a bydd hefyd yn cynnal grŵp ffocws ar-lein gydag Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Mae'r deunyddiau a baratowyd ar gyfer y grŵp ffocws wedi cael eu haddasu fel bod Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru syn methu â chymryd rhan yn y grŵp ffocws yn gallu rhannu eu barn yn ysgrifenedig yn lle hynny. Mae croeso hefyd i unrhyw blant neu bobl ifanc eraill ymateb os ydyn nhw eisiau gwneud hynny.

Gwybodaeth am y Bil

Os daw'r Bil yn gyfraith, yna:

>>>> 

>>>Bydd newidiadau i'r ffordd y mae Aelodau o'r Senedd yn cael eu hethol.

>>>Bydd 96 Aelod (mae 60 ar hyn o bryd).

>>>Bydd aelodau'n cael eu hethol am bedair blynedd (pum mlynedd ar hyn o bryd).

>>>Bydd yn rhaid i Ymgeiswyr ac Aelodau fyw yng Nghymru.

<<<< 

Yn ddiweddarach eleni, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyflwyno Bil ar wahân sy'n edrych ar amrywiaeth y bobl sy'n sefyll yn etholiadau'r Senedd ac yn nodi cynlluniau i wneud yn siŵr bod nifer cyfartal o fenywod a dynion yn sefyll yn etholiad y Senedd.

Sut i ymateb

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am y Bil a darganfod sut i rannu eich barn ar ein gwefan.

Y dyddiad cau yw 17.00 dydd Gwener 10 Tachwedd 2023.

Mae'n ddrwg gennym os nad yw hyn yn rhoi llawer o amser i chi, ond rydym am wneud yn siŵr y gallwn ystyried eich barn pan fyddwn yn holi Llywodraeth Cymru am y Bil ym mis Rhagfyr. Nid oes raid i chi ysgrifennu llawer, ac nid oes angen i chi ateb pob cwestiwn oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny.

 


Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Biliau Diwygio
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddReform@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565