Ymgynghoriad

Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) wedi cael ei gyfeirio at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1.

 

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn y mae’r Pwyllgor yn edrych arno a sut y gallwch rannu’ch barn.

 

Cylch gorchwyl

Mae’r Pwyllgor yn trafod:

>>>> 

>>>Egwyddorion cyffredinol Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ac a oes angen deddfwriaeth i gyflawni’r amcanion polisi a nodir yn y Bil (gweler isod am ragor o wybodaeth am y Bil).

>>>Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil, ac a yw’r Bil a’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n cyd-fynd ag ef yn rhoi ystyriaeth ddigonol iddynt.

>>>A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil.

>>>Asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau ariannol ac effeithiau eraill y Bil fel y’u nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol.

>>>Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn Rhan 1: Pennod 5 o’r Memorandwm Esboniadol).

>>>Materion sy’n ymwneud â chymhwysedd y Senedd, gan gynnwys a yw Biliau’n gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

>>>Y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd wedi ei gynnwys ar wyneb y Bil a'r hyn sydd i'w gynnwys drwy is-ddeddfwriaeth.

>>>Unrhyw fater yn ymwneud ag ansawdd deddfwriaeth.

>>>Unrhyw fater arall yn ymwneud â goblygiadau cyfansoddiadol neu oblygiadau eraill y Bil.

<<<< 

 

Gwybodaeth am y Bil

Os caiff ei basio, bydd y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn gwneud yr hyn a ganlyn:

>>>> 

>>>Rhoi swyddogaethau Bwrdd Rheoli Etholiadol Cymru i’r Comisiwn a fydd yn golygu bod y Comisiwn yn sefydlu’r Bwrdd i ysgwyddo cyfrifoldeb am oruchwylio’r gwaith o gyd-drefnu a gweinyddu etholiadau datganoledig, cydweithio â Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ogystal â chynghori Gweinidogion Cymru ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd democrataidd y wlad.

>>>Cyflwyno cofrestru etholiadol heb gais, a’r gallu i dreialu’r dulliau mwyaf priodol ar gyfer cyflawni hyn.

>>>Creu dyletswydd a roddir ar Weinidogion Cymru i roi trefniadau ar waith a fydd â’r nod o wella amrywiaeth o fewn strwythurau democrataidd y Senedd a llywodraeth leol yn ogystal â chreu a theilwra cynlluniau unigol i ddarparu cymorth ar gyfer nodweddion gwarchodedig.

>>>Diddymu’r gofyniad i nodi geiriad a fformat penodol yr arolwg i ymgeiswyr llywodraeth leol mewn rheoliadau.

>>>Creu gofyniad am lwyfan gwybodaeth i bleidleiswyr all gynnal gwybodaeth ymgeiswyr a phleidleisio ar gyfer etholiadau’r Senedd a phrif gynghorau.

>>>Sicrhau bod ymgeiswyr ac asiantau yn atebol am wariant tybiannol dim ond pan fyddant wedi cyfarwyddo ei ddefnydd, caniatáu i bersonau awdurdodedig wneud taliadau heb fynd drwy asiant etholiadol, a chyfyngu ar bwy all weithredu fel ymgyrchydd trydydd parti mewn etholiadau datganoledig. Er mwyn cefnogi’r newidiadau hyn i gyllid ymgyrchoedd, mae’r Bil hefyd yn cynnig galluogi’r Comisiwn Etholiadol i gynnwys y rhain yn ei godau ymarfer.

>>>Addasu rôl a chylch gwaith Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn), gan gynnwys newidiadau i enw a swyddogaethau ei bwyllgor archwilio, cryfhau trefniadau adolygiadau etholiadol yn sylweddol yn ogystal â 5 rhoi swyddogaethau i’r Comisiwn i ymgymryd â’r mwyafrif o’r swyddogaethau a gyflawnir gan y Panel ar hyn o bryd. Bydd y Comisiwn hefyd yn gyfrifol am bennu swm unrhyw daliad ymaddasu sy’n daladwy gan brif gyngor i gynghorwyr nad ydynt yn llwyddo i gael eu hailethol i’r cyngor mewn etholiad cyngor lleol.

>>>Anghymhwyso cynghorwyr tref a chymuned yng Nghymru rhag gwasanaethu yn Aelodau o’r Senedd a diddymu’r “cyfnod gras” presennol i brif gynghorwyr a etholir i’r Senedd ac i Aelodau o’r Senedd a etholir yn Aelodau Seneddol y Deyrnas Unedig.

<<<< 

 

Sut i rannu’ch barn

 

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl a’r cymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd yn y materion hyn neu brofiad ohonynt i rannu eich barn, gan wybod y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Gallwch anfon eich sylwadau’n electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddTai@senedd.cymru, neu eu hanfon drwy'r post at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 16.00 ddydd Gwener 10 Tachwedd 2023.

 

Byddem yn eich annog i gadw’ch ymateb yn gryno a chanolbwyntio ar y pwyntiau allweddol yr hoffech eu dwyn i sylw'r Pwyllgor.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

>>>> 

>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>A yw’ch tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cadarnhad bod eich rhiant neu’ch gwarcheidwad yn caniatáu i chi gymryd rhan (gellir gwneud hyn drwy e-bost).

>>>Cadarnhad a fyddai’n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>Cadarnhad o ran a hoffech i’r Pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gan roi rhesymau dros hynny.

>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<<<

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.