Ymgynghoriad

Ymchwil a Datblygu

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr Alwad Agored am Safbwyntiau

Cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ymchwiliad ‘cipolwg’ undydd i asesu sefyllfa bresennol y dirwedd ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru ac effeithiolrwydd y canlynol:

>>>> 

>>>Ariannu cyhoeddus: gan gynnwys lefelau ariannu; rhwystrau i fynediad; gwahaniaethau rhanbarthol ar draws y DU a Chymru

>>>Cydweithio: rhwng prifysgolion a diwydiant

>>>Cefnogaeth i fusnesau Cymreig: trwy ymchwil a datblygiad

>>>Dull gweithredu Llywodraeth Cymru: gan gynnwys ei Strategaeth Arloesi ddiweddar

<<<< 

 

Sut i rannu eich barn

Roedd yn dda gan y Pwyllgor gael eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion y cyfeirir atynt yn y cylch gorchwyl, ac am y cwestiynau isod yn benodol:

>>>> 

>>>Pa heriau y mae busnesau Cymru yn eu hwynebu o ran ymwybyddiaeth o gyllid ymchwil a datblygu cyhoeddus a mynediad ato?

>>>Pa wahaniaethau sydd rhwng cyllid ar gyfer prifysgolion a chyllid ar gyfer arloesi yn y diwydiant? A oes gwahaniaethau rhanbarthol yn y dyraniad cyllid?

>>>A yw diddordebau ymchwil prifysgolion a diwydiant yn wahanol ac, os felly, pa gamau y gellir eu cymryd a chan bwy i sicrhau y darperir ar gyfer buddiannau'r ddau sector?

>>>Sut gall prifysgolion a busnesau ryngweithio a chydweithio’n well â’i gilydd?

>>>Pa mor effeithiol yw Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru yn debygol o fod o ran cefnogi ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru?

>>>Cynnydd a mewn cysylltiad ag ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Bumed Senedd ar ymchwil ac arloesi yng Nghymru.

<<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd 15 Tachwedd 2023.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, croesawodd y Pwyllgor gyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gwnaethom ofyn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565