Ymgynghoriad

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgorau’r Senedd yn ceisio gwybodaeth i lywio eu gwaith craffu ar gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Rydym yn awyddus i drafod y disgwyliadau o ran cyllideb 2024-25, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 ac effaith cyllideb 2023-24.

 

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol, trosfwaol. Rydym hefyd yn gweithio gyda phwyllgorau eraill y Senedd i sicrhau bod y cynigion ar gyfer adrannau penodol, neu bortffolios Cabinet penodol, yn cael eu hystyried yn fanwl.

 

Hoffai'r Pwyllgor ofyn eich barn ar y cwestiynau penodol sydd wedi'u cynnwys yn y llythyr ymgynghori (PDF 359KB) ac unrhyw sylwadau cyffredinol eraill sydd gennych ar y gyllideb ddrafft.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

 

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Mae’r yr ymgynghoriad hwn i ben ddydd Iau 30 Tachwedd 2023.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565