Ymgynghoriad
Diwylliant a'r berthynas newydd â'r UE
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 24 Gorffennaf 2023 a Dydd Gwener, 27 Hydref 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- CEU 01 - NoFit State Community Circus (Saesneg yn unig) PDF 141 KB Gweld fel HTML (1) 74 KB
- CEU 02 - Media Cymru (Saesneg yn unig) PDF 263 KB Gweld fel HTML (2) 80 KB
- CEU 03 - Opera Cenedlaethol Cymru PDF 636 KB Gweld fel HTML (3) 225 KB
- CEU 04 - Theatr Byd Bychan (Saesneg yn unig) PDF 694 KB Gweld fel HTML (4) 12 KB
- CEU 05 - Cyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru PDF 699 KB Gweld fel HTML (5) 63 KB
- CEU 06 - Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Cyfnewidfa Lên Cymru (Saesneg yn unig) PDF 176 KB
- CEU 07 - Llyfrgell Cenedlaethol Cymru PDF 110 KB Gweld fel HTML (7) 35 KB
- CEU 08 - UK Music (Saesneg yn unig) PDF 228 KB Gweld fel HTML (8) 38 KB
- CEU 09 - Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain (ABO) (Saesneg yn unig) PDF 738 KB Gweld fel HTML (9) 56 KB
- CEU 10 - Jones y Ddawns (Saesneg yn unig) PDF 94 KB Gweld fel HTML (10) 38 KB
- CEU 11 - Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) PDF 671 KB Gweld fel HTML (11) 48 KB
- CEU 12 - Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru PDF 1 MB
- CEU 13 - Equity (Saesneg yn unig) PDF 331 KB Gweld fel HTML (13) 27 KB
- CEU 14 - British Council (Saesneg yn unig) PDF 834 KB Gweld fel HTML (14) 59 KB
- CEU 15 - Undeb y Cerddorion (Saesneg yn unig) PDF 224 KB
- CEU 16 - Y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Hyfforddiant a Chydweithredu Rhanbarthol (ECTARC) (Saesneg yn unig) PDF 90 KB Gweld fel HTML (16) 36 KB
- CEU 17 - Ffilmiau Wicked Cymru (Saesneg yn unig) PDF 90 KB Gweld fel HTML (17) 35 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae gwybodaeth am
yr ymchwiliad hefyd ar gael yn fformat
Microsoft Word.
Mae Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad i
ddiwylliant a’r berthynas rhwng y DU a’r UE.
Cylch gorchwyl
Mae’r Pwyllgor yn
ystyried yr effaith ar y sector diwylliant ar ôl i’r DU adael yr UE, ac yn
ceisio eich barn ar faterion fel y rhai hyn:
>>>>
>>>effaith
y berthynas newydd ar artistiaid a gweithwyr creadigol sy'n teithio ac yn
gweithio ar draws ffiniau (gan gynnwys teithio a gweithio yng Nghymru);
>>>effaith
y trefniadau masnachu newydd sy'n ymwneud â gweithgareddau diwylliannol;
>>>argaeledd
canllawiau a chymorth ar gyfer y sector sy'n ymwneud â'r berthynas newydd rhwng
y DU a'r UE;
>>>yr
effaith ar fynediad i raglenni cyllido a rhwydweithiau; ac
>>>unrhyw
newidiadau i’r berthynas rhwng y DU a'r UE a allai wella trefniadau gweithio ar
draws ffiniau ar gyfer y sector diwylliant.
<<<<
Mae croeso ichi
roi eich barn neu rannu gwybodaeth am unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol
i’n hymchwiliad. Mae templed i lywio eich ymateb hefyd ar gael i'w lawrlwytho fel
dogfen Microsoft Word.
Dilyn:
#SeneddDiwylliantUE
Sut i rannu
eich barn
Mae’r rhan fwyaf
o bobl yn dewis rhannu eu barn â ni yn ysgrifenedig. Y ffordd gyflymaf o wneud
hyn yw anfon e-bost at SeneddCulture@senedd.cymru.
Ein cyfeiriad post yw:
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol,
Senedd Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd
CF99 1SN
I'r rhai na
allant rannu eu barn gyda ni yn ysgrifenedig, gallwn hefyd dderbyn mathau
eraill o dystiolaeth, fel fideo neu recordiadau llais. Os oes angen gwybodaeth
arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen,
recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni.
Rydym am drin
pobl yn deg a sicrhau bod pawb yn gallu dweud eu dweud. Os nad yw hyn yn
digwydd, rydym am glywed sut y gallwn newid hyn. Rhannwch unrhyw fanylion gyda
ni am eich amgylchiadau personol neu anghenion sy'n ei gwneud hi'n anodd i chi
gymryd rhan ac am yr hyn y gallem ei wneud yn wahanol fel y gallwch chi gymryd
rhan.
Gallwch ffonio
ein staff cymorth ar 0300 200 6565 neu gysylltu â ni drwy ein cyfrif twitter @SeneddDiwyllCRh.
Byddwn yn casglu
gwybodaeth dros yr haf ac yn yr hydref. Y dyddiad cau ar gyfer darparu
gwybodaeth i ni yw dydd Gwener, 27 Hydref 2023. Bydd yr holl wybodaeth
yn cael ei defnyddio i'n helpu i wirio a herio Llywodraeth Cymru am ei gwaith
yn y maes hwn. Bydd eich gwybodaeth hefyd yn ein helpu i feddwl am ba
newidiadau rydym am eu gweld yn digwydd.
Fel Pwyllgor, ni
allwn gymryd rhan mewn achosion unigol, ond gall eich barn a'ch profiadau helpu
i gyfrannu at wneud newidiadau ledled Cymru.
Edrychwn ymlaen
at glywed gennych.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Ynghyd â’ch
cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y
person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.
>>>A yw eich tystiolaeth yn cael ei
chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel
unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.
>>>Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb
eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy
e-bost).
>>>Dylech roi gwybod inni os byddai'n
well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi (ni fydd enwau unigolion o dan
18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>>Dylech roi gwybod inni os ydych am
i'ch cyflwyniad gael ei drin yn gyfrinachol, a pham.
>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd
parti yn eich tystiolaeth, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu
gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg
a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol
y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n
hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig
i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u
rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os
ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth
cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Fel arfer mae
Senedd Cymru yn cyhoeddi tystiolaeth a gyflwynir i bwyllgor ar ei gwefan, fel bod
y dystiolaeth hon yn dod yn rhan o’r cofnod cyhoeddus.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565