Ymgynghoriad

Cymru Wrth-hiliol

Diben yr ymgynghoriad

Cymru Wrth-hiliol

Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru yn datgan mai ei ddiben yw "gwneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol" ac mae'n nodi gweledigaeth o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030.  Ar 20 Mawrth 2023, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol sesiwn bord gron gyda rhanddeiliaid i ganfod blaenoriaethau allweddol mewn perthynas â gweithredu’r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Tynnodd y rhanddeiliaid sylw at faterion yn ymwneud â’r modd y caiff y cynllun ei weithredu a’i gyflawni’n gyffredinol, a mynegi pryderon yn y meysydd polisi a ganlyn:

>>>> 

>>>Iechyd: mae pryderon yn cynnwys defnyddio plant fel cyfieithwyr mewn lleoliadau gofal iechyd.

>>>Addysg: mae pryderon yn cynnwys hiliaeth mewn ysgolion, hyfforddiant a sgiliau, bylchau cyrhaeddiad, a rhwystrau mewn addysg uwch.

>>>Tai: mae pryderon yn cynnwys lefelau isel o ymwybyddiaeth am y cynllun a diffyg ymgysylltu â landlordiaid preifat.

>>>Trosedd a Chyfiawnder: pryderon ynghylch diffyg gweithredu ar adroddiadau am hiliaeth, mynd i'r afael â 'hiliaeth bob dydd' a mathau amlwg o hiliaeth wedi'u targedu at grwpiau penodol (gan gynnwys ymfudwyr a ffoaduriaid) ac anghymesuredd o ran hil yn y system cyfiawnder troseddol.

<<<< 

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am archwilio’r materion hyn ymhellach drwy gynnal ymchwiliad i’r modd y caiff y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ei weithredu a’i gyflawni.

 

Cylch gorchwyl

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw:

>>>> 

>>>Ystyried effeithiolrwydd camau Llywodraeth Cymru wrth gyflawni’r cynllun, gan gynnwys yr hyn sy’n cael ei wneud i ‘arwain drwy esiampl’ o ran mabwysiadu dull gweithredu rhagweithiol a thrawslywodraethol ynghylch hiliaeth.

>>>Ystyried cynnydd a threfniadau monitro’r Cynllun, gan gynnwys rôl y sector cyhoeddus (awdurdodau lleol, iechyd, addysg), y trydydd sector a, phan fo’n gymwys, y sector preifat.

>>>Ymchwilio i gynnydd yr Uned Gwahaniaethau ar sail Hil, a phenderfynu a oes bylchau o ran casglu data ac a yw’r data’n cael eu dadansoddi’n effeithiol.

>>>Ymchwilio i ba sianelau cyfathrebu sydd wedi'u sefydlu i sicrhau bod pobl â phrofiad bywyd yn cael gwybod am gynnydd y cynllun a pha newidiadau sy'n digwydd o ganlyniad i'r cynllun.

>>>Gwerthuso effeithiolrwydd y Cynllun yn ei flwyddyn gyntaf, gan gynnwys a yw camau gweithredu wedi cael eu cyflawni, beth yw'r canlyniadau allweddol hyd yn hyn, a darganfod pam na weithredwyd camau sy’n weddill.

>>>Helpu i ddeall yn well pa ymyriadau eraill sydd eu hangen i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun ac a oes rhwystrau rhag gweithredu’r cynllun.

<<<< 

O ystyried pwysigrwydd croestoriadedd, bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried sut mae’r Cynllun a’r polisïau wedi rhoi ystyrieaeth i hunaniaeth croestoriadol pobl a sut y cafodd y rhain eu hystyried wrth ddatblygu a gweithredu'r Cynllun.

 

Casglu tystiolaeth

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl a’r cymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 6 Hydref 2023.

Yn ogystal â'ch ymateb, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

>>>> 

>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb gan eich rhiant neu eich gwarcheidwad y cewch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>Cadarnhad a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>Cadarnhad o ran a hoffech i’r Pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, megis rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bo wedi cytuno y cewch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<<< 

 

Sut i rannu eich barn

Gallwch rannu eich barn yn electronig drwy ei hanfon at SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru, neu drwy'r post at Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

Darparu Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

Gweler y canllawiau i’r rhai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.

 

Datgelu gwybodaeth

Cofiwch sicrhau eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565