Ymgynghoriad

Bil Seilwaith (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Bil Seilwaith (Cymru) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) ar gyfer craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod cyffredinol y Bil yw creu proses gydsynio unedig ar gyfer prosiectau seilwaith yng Nghymru, gan symud i ffwrdd o’r trefniadau cydsynio presennol, sydd wedi dyddio i raddau helaeth ac sy’n annigonol, i fath newydd o gydsyniad sy'n cynnwys yr ystod lawn o awdurdodiadau sy'n ofynnol i alluogi gwaith datblygu.

Mae’r Bil yn cynnig:

>>>> 

>>> sefydlu proses cydsynio seilwaith unedig ar gyfer mathau penodedig o seilwaith mawr ar ac oddi ar y môr (hyd at ffin atfor tiriogaethol), gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, gwastraff, dŵr a phrosiectau nwy. Gelwir y math newydd o ganiatâd yn "gydsyniad seilwaith" ("IC") a bydd yn cael ei roi mewn perthynas â phrosiectau sy'n cael eu pennu fel "Prosiect Seilwaith Mawr" ("SIP");

>>> darparu bod yn rhaid i ddatblygwyr gael IC ar gyfer SIP. Bwriad yr IC yw cynnwys yr ystod lawn o awdurdodiadau sydd eu hangen er mwyn gweithredu'r datblygiad; a

>>> disodli, naill ai'n llawn neu'n rhannol, nifer o gyfundrefnau statudol presennol ar gyfer cydsynio prosiectau seilwaith a rhesymoli nifer yr awdurdodiadau sydd eu hangen i adeiladu a gweithredu datblygiad o'r fath yn un caniatâd.

<<<< 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol (PDF 1.7MB) cysylltiedig.

 

I helpu i lywio ei waith craffu, mae’r Pwyllgor yn casglu sylwadau ar:

>>>> 

>>> egwyddorion cyffredinol y Bil a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad polisi a nodwyd;

>>> darpariaethau’r Bil, gan gynnwys a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd:

>*>*>*>*

*** Prosiectau seilwaith arwyddocaol (Rhan 1 adrannau 1 i 18);

*** Gofyniad am gydsyniad seilwaith (Rhan 2 adrannau 19 i 26);

*** Gwneud cais am gydsyniad seilwaith (Rhan 3adrannau 27 i 38);

*** Archwilio ceisiadau (Rhan 4 adrannau 39 i 51);

*** Penderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith (Rhan 5 adrannau 52 i 59);

*** Gorchmynion cydsyniad seilwaith (Rhan 6 adrannau 60 i 99);

*** Gorfodi (Rhan 7 adrannau 100 i 120);

*** Swyddogaethau atodol (Rhan 8 adrannau 121 i 129);

*** Darpariaethau cyffredinol (Rhan 9 adrannau 130 i 144);

<*<*<*

>>> unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu darpariaethau’r Bil ac a yw’r Bil yn eu hystyried,

>>> priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol);

>>> a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a

>>> goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

<<<< 

Cyflwyno eich barn

Hoffem i chi gyflwyno eich barn drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.

Mae templed y gellir ei lawrlwytho ar gael i chi ddrafftio eich ymateb cyn i chi ei anfon. Fodd bynnag, peidiwch ag anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad ar y templed hwnnw drwy e-bost. Dylai pob ymateb gael eu hanfon drwy'r ffurflen ar-lein.

Y dyddiad cau i gyflwyno barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 11 Awst 2023.

 

Cyfeiriwch at dudalen y Bil i gael rhagor o wybodaeth a’r diweddaraf am y Bil.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565