Ymgynghoriad

Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: craffu ar ôl deddfu

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad er mwyn gwneud gwaith craffu ar ôl ddeddfu ar Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

 

Mae rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar gael isod.

 

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn rhoi mwy o fanylion am yr hyn y mae'r Pwyllgor yn edrych arno a sut y gallwch rannu eich barn. Mae'r holl wybodaeth hefyd ar gael i'w lawrlwytho fel dogfen Microsoft Word. Mae gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r opsiynau hygyrchedd yn y fersiwn Microsoft Word ar gael mewn dogfen eglurhaol.

 

Cylch gorchwyl

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>    Gweithrediad ac effeithiolrwydd y Ddeddf hyd yn hyn, gan gynnwys ei heffaith ar ganlyniadau cleifion, ei heffaith ar y broses o recriwtio a chadw nyrsys, a’r rhwystrau sy’n bodoli o ran cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

>>>    Y camau gweithredu pellach y mae eu hangen i sicrhau cyflenwad cynaliadwy o staff nyrsio, a hynny er mwyn diwallu anghenion cleifion a gofynion y ddeddfwriaeth wrth symud ymlaen.

>>>    Y cynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygu’r sylfaen dystiolaeth i ymestyn y Ddeddf i leoliadau pellach.

>>>    I ba raddau y mae’r Ddeddf yn addas ar gyfer y dyfodol, ac i ba raddau y bydd yn cyfrannu at sicrhau bod gan GIG Cymru y gweithlu sydd ei angen arno yn y dyfodol i ddarparu gofal effeithiol sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n diwallu anghenion pob grŵp poblogaeth.

<<< 

 

Mae croeso i chi roi barn ar unrhyw un o'r materion hyn neu bob un ohonynt.

 

Casglu tystiolaeth

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu’r amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i rannu eich safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eich barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yw Dydd Iau 6 Gorffennaf 2023.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

>>>> 

>>>    Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>    A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>    Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>    Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>    Cadarnhad ynghylch a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>    Cadarnhad ynghylch a hoffech i’r Pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>    Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<< 

 

Sut i rannu eich barn

Gallwch gyflwyno eich tystiolaeth yn electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddIechyd@Senedd.Cymru, neu ei hanfon drwy'r post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

Gwybodaeth am y Ddeddf

Trosolwg

Yn 2016, pasiodd Cymru Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i gydnabod—mewn deddfwriaeth—y cysylltiad rhwng niferoedd staff nyrsio, y cymysgedd sgiliau yn eu plith, a chanlyniadau cleifion.

 

Cafodd y ddeddfwriaeth hon ei hysgogi gan bryderon am fethiannau mewn gofal nyrsio yn y DU, gan gynnwys yr adroddiad a gyhoeddwyd ynghylch yr ymchwiliad cyhoeddus i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canol Swydd Stafford, ac yng Nghymru, yr adroddiad ‘Ymddiried mewn Gofal’, a oedd yn ymdrin ag ansawdd a diogelwch cleifion yn Ysbyty Tywysoges Cymru ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

 

Roedd y ddeddfwriaeth, a gyflwynwyd fel Bil Aelod gan Kirsty Williams AC, yn ceisio sicrhau bod lefelau staff nyrsio o fewn GIG Cymru yn ddigonol i ddarparu gofal nyrsio diogel, effeithiol o safon i gleifion drwy'r amser.

 

Yn gychwynnol, roedd y Ddeddf yn gosod gofyniad ar fyrddau iechyd i gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio priodol ar wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion mewn ysbytai. Drwy gydol y broses o ddatblygu’r ddeddfwriaeth, a’i hynt drwy’r Senedd, roedd bwriad clir i sicrhau bod y gofyniad hwn (y cyfeirir ato yn gyffredinol fel adran 25B) yn cael ei ymestyn i leoliadau gofal iechyd eraill yn y dyfodol. Ers mis Hydref 2021, mae hefyd wedi bod yn berthnasol i wardiau pediatrig.

 

Prif elfennau

Mewnosododd y Ddeddf yr adrannau newydd a ganlyn yn Neddf GIG Cymru (Cymru) 2006  (cyfeirir at y prif ddyletswyddau’n aml yn ôl rhif yr adrannau hyn):

>>>> 

>>>    25A Dyletswydd gyffredinol ar fyrddau iechyd lleol ac Ymddiriedolaethau'r GIG i roi sylw i'r pwysigrwydd o sicrhau lefel briodol o staff nyrsio ym mhob lleoliad. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan fo byrddau iechyd yn comisiynu gwasanaethau gan drydydd parti. Daeth y ddyletswydd hon i rym ym mis Ebrill 2017.

>>>    25B Dyletswydd i gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio mewn lleoliadau penodedig (diffinnir ‘nurse staffing level’ yn y Ddeddf fel “the number of nurses appropriate to provide care to patients that meets all reasonable requirements in that situation” (“nifer y nyrsys sy’n briodol i ddarparu gofal i gleifion sy’n bodloni’r holl ofynion rhesymol yn y sefyllfa honno”)).  Yng nghyd-destun wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion, daeth hyn i rym ym mis Ebrill 2018. Ers mis Hydref 2021, mae hefyd wedi bod yn berthnasol i wardiau pediatrig i gleifion mewnol. Mae’r adran hon hefyd yn darparu ar gyfer ymestyn y ddyletswydd i leoliadau eraill.

>>>    25C Mae’r adran hon yn nodi sut y dylid cyfrifo lefelau staff nyrsio.

>>>    25D Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau statudol i fyrddau/ymddiriedolaethau iechyd ar eu dyletswyddau o dan 25B a 25C.

>>>    25E Mae gofyn i fyrddau iechyd (ac ymddiriedolaethau, pan fo’n berthnasol) baratoi adroddiad i Lywodraeth Cymru yn dangos sut y maent yn cydymffurfio ag adran 25B ar ôl cyfnod o dair blynedd.  Yn dilyn hynny, rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad cryno. Cafodd yr adroddiad cryno cyntaf, ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2018 a mis Ebrill 2021, ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021.

<<< 

 

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565