Ymgynghoriad
Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 31 Mawrth 2023 a Dydd Gwener, 2 Mehefin 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- DLG 01 Jayne Garland (Saesneg yn unig) PDF 723 KB
- DLG 02 The Fawcett Society (Saesneg yn unig) PDF 800 KB
- DLG 03 Electoral Reform Society (ERS) Cymru (Saesneg yn unig) PDF 827 KB
- DLG 04 Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru (Saesneg yn unig) PDF 798 KB
- DLG 05 Chwarae Teg (Saesneg yn unig) PDF 850 KB
- DLG 06 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 852 KB
- DLG 07 The Catholic Bishops’ Conference of England and Wales (CBCEW) (Saesneg yn unig) PDF 695 KB
- DLG 08 Race Council Cymru (Saesneg yn unig) PDF 849 KB
- DLG 09 Y Comisiwn Etholiadol, Cymru PDF 676 KB
- DLG 10 Yr Athro Elizabeth Evans - Goldsmiths, University of London (Saesneg yn unig) PDF 782 KB
- DLG 11 Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol PDF 839 KB
- DLG 12 Stonewall Cymru (Saesneg yn unig) PDF 616 KB
- DLG 13 Cynghorydd Richard John (Saesneg yn unig) PDF 794 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn
edrych ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol.
Nod yr ymchwiliad
fydd:
>>>>
>>>Asesu
cynnydd tuag at wella amrywiaeth mewn llywodraeth leol ers pasio Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac unrhyw effaith bendant ar
ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiad.
>>>Ystyried
y cynnydd wrth weithredu'r argymhellion yn adroddiad 2019 y Pwyllgor
Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar amrywiaeth mewn llywodraeth
leol.
>>>Ymchwilio
i waith ymchwil a dadansoddi a gaiff ei wneud gan Lywodraeth Cymru, cyrff
partner ac eraill ar amrywiaeth ymgeiswyr a chanlyniadau yn dilyn etholiadau
lleol 2022.
>>>Archwilio
cynlluniau a sefydlwyd i hyrwyddo a galluogi mwy o amrywiaeth ymhlith y rhai
sy'n sefyll mewn etholiad, gan gynnwys y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig.
>>>Ymchwilio
i feysydd arloesedd ac arfer da a allai helpu i gynyddu amrywiaeth mewn
llywodraeth leol.
<<<<
Sut i roi eich
barn
I roi eich barn
yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddTai@senedd.cymru,
neu drwy'r post at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Senedd Cymru, Caerdydd,
CF99 1SN.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Gofynnwn i chi
gyfrannu erbyn dydd Gwener 2 Mehefin 2023. Mae’n bosibl na fydd modd
ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565