Ymgynghoriad
Cyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 23 Mawrth 2023 a Dydd Gwener, 21 Ebrill 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i gronfeydd
datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE ac wedi casglu barn.
Y cefndir
Fel cyn-aelod o'r
Undeb Ewropeaidd (UE), roedd y Deyrnas Unedig (DU) yn cynnwys y cenhedloedd
datganoledig, yn gymwys i wneud defnydd o raglenni ariannu amrywiol.
Ar 1 Ionawr 2021,
daeth y Cytundeb
Masnach a Chydweithredu (“Y Cytundeb”) i rym gan sefydlu perthynas y DU â’r
UE ar gyfer y dyfodol. Fel rhan o’r Cytundeb, ni fydd y DU yn defnyddio
cylchoedd rhaglenni cyllid strwythurol yr UE yn y dyfodol. Gan ddefnyddio
pwerau o Ddeddf
Marchnad Fewnol y DU 2020, mae Llywodraeth y DU wedi datblygu cynlluniau
cyllido newydd ledled y DU, gan gynnwys:
>>>>
>>> Cronfa
Adnewyddu Cymunedol y DU (y rhaglen beilot ar gyfer y Gronfa Ffyniant
Gyffredin)
>>> Cronfa
Ffyniant Gyffredin y DU
<<<
Mae'r Pwyllgor yn
cynnal ymchwiliad i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'r Gronfa Ffyniant Bro.
Sut i rannu
eich barn
Croesawodd y
Pwyllgor farn ar unrhyw un, neu bob un, o'r materion yr ymdrinnir â nhw yn y
cylch gorchwyl:
>>>>
>>> Pa
mor effeithiol oedd Cronfeydd Strwythurol yr UE o ran trawsnewid economi Cymru?
>>> A
yw'r cyllid y bydd Cymru'n ei gael tan 2024-25 drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin
a gweddill Cronfeydd Strwythurol yr UE yn cyfateb i lefel y cyllid a
dderbyniodd Cymru drwy Gronfeydd Strwythurol tra roedd y DU yn aelod o'r UE ac
unrhyw Gronfeydd Strwythurol posibl a fyddai wedi bod ar gael drwy'r rhaglen
nesaf.
>>> Pa
elfennau o'r ddwy gronfa newydd sydd wedi gweithio'n dda hyd yma, a pha rai
sydd wedi bod yn llai effeithiol. Pa
wersi y gellid eu dysgu ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael
yr effaith fwyaf bosibl.
>>> Pa
fathau o ymyraethau a gaiff eu darparu drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac i
ba raddau y mae'r rhain yn wahanol i ymyraethau Cronfeydd Strwythurol.
>>> A
yw'r cyllid yn llwyddo i ganfod a chefnogi’r cymunedau ac ardaloedd yng Nghymru
sydd â'r angen mwyaf, a sut mae lledaeniad daearyddol y cyllid yn cymharu â
Chronfeydd Strwythurol.
>>> I ba
raddau y mae'r prosesau a'r amserlenni a bennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer y
cyllid yn cefnogi awdurdodau lleol a rhanbarthau i gyflawni’r canlyniadau a
fwriedir ganddynt.
>>> Pa
mor effeithiol y mae'r gwahanol lefelau o lywodraethu yng Nghymru yn cydweithio
mewn perthynas â'r cronfeydd hyn.
>>> Yr
heriau a'r cyfleoedd y mae'r ffrydiau cyllido hyn yn eu darparu ar gyfer cyrff
megis busnesau, colegau, prifysgolion a mudiadau'r sector gwirfoddol a
dderbyniodd Gronfeydd Strwythurol.
>>> Sut
mae'r rhaglen Lluosi yn datblygu ar draws gwahanol rannau o Gymru, a beth yw'r
rhwystrau a'r cyfleoedd posibl mewn perthynas â chyflwyno'r rhaglen hon.
<<<
Y dyddiad cau ar gyfer
cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd dydd Gwener 21 Ebrill 2023.
Mae’r Pwyllgor
hefyd yn croesawu sefydliadau sydd â phrofiad byw o ffrydiau ariannu datblygu
rhanbarthol ar ôl gadael yr UE i gwblhau’r arolwg
hwn. Bydd yr arolwg yn cau ddydd Llun 15 Mai 2023. Dylai gymryd 10-15
munud i'w gwblhau.
Os oes gennych
chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi
gysylltu â ni.
Dogfennau ategol
- RDF01 - Onward UK [Saesneg yn unig] PDF 1 MB
- RDF02 - PLANED [Saesneg yn unig] PDF 787 KB
- RDF03 - Yr Athro Steve Fothergill [Saesneg yn unig] PDF 638 KB Gweld fel HTML (3) 36 KB
- RDF04 - Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent [Saesneg yn unig] PDF 104 KB Gweld fel HTML (4) 6 KB
- RDF05 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru [Saesneg yn unig] PDF 581 KB Gweld fel HTML (5) 59 KB
- RDF06 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf [Saesneg yn unig] PDF 442 KB Gweld fel HTML (6) 44 KB
- RDF07 - Ffederasiwn y Busnesau Bach [Saesneg yn unig] PDF 445 KB Gweld fel HTML (7) 40 KB
- RDF08 - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru PDF 516 KB
- RDF09 - Cyngor Sir Penfro PDF 693 KB Gweld fel HTML (9) 80 KB
- RDF10 - Prifysgol Abertawe PDF 216 KB
- RDF11 - Colegau Cymru [Saesneg yn unig] PDF 214 KB
- RDF12 - Industrial Communities Alliance Wales [Saesneg yn unig] PDF 584 KB Gweld fel HTML (12) 27 KB
- RDF13 - Prifysgolion Cymru [Saesneg yn unig] PDF 246 KB Gweld fel HTML (13) 52 KB
- RDF14 - Banc Datblygu Cymru [Saesneg yn unig] PDF 188 KB Gweld fel HTML (14) 11 KB
- RDF15 - Chwarae Teg [Saesneg yn unig] PDF 273 KB
- RDF16 - Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru [Saesneg yn unig] PDF 684 KB Gweld fel HTML (16) 56 KB
- RDF17 - Cyngor Sir Fynwy [Saesneg yn unig] PDF 677 KB Gweld fel HTML (17) 22 KB
- RDF18 - Undeb Amaethwyr Cymru [Saesneg yn unig] PDF 152 KB
- RDF19 - The Convention of Scottish Local Authorities (COSLA) [Saesneg yn unig] PDF 131 KB
- RDF20 - The Association for Consultancy and Engineering (ACE) [Saesneg yn unig] PDF 209 KB Gweld fel HTML (20) 17 KB
- RDF21 - Sefydliad Astudiaethau Cyllid [Saesneg yn unig] PDF 804 KB Gweld fel HTML (21) 42 KB
- RDF22 - Cwmpas [Saesneg yn unig] PDF 191 KB
- RDF23 - Prifysgol Metropolitan Caerdydd [Saesneg yn unig] PDF 367 KB
- RDF24 - Prifysgol Caerdydd [Saesneg yn unig] PDF 408 KB
- RDF25 - Sefydliad Materion Cymreig [Saesneg yn unig] PDF 228 KB
- RDF26 - Bevan Foundation (Saesneg yn unig) PDF 526 KB Gweld fel HTML (26) 18 KB
- RDF27 - Cyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE (Saesneg yn unig) PDF 499 KB Gweld fel HTML (27) 52 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565