Ymgynghoriad
Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 22 Mawrth 2023 a Dydd Gwener, 28 Ebrill 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- AQS 01 Awyr Iach Cymru (Saesneg yn unig) PDF 293 KB
- AQS 02 Asthma + Lung UK PDF 140 KB
- AQS 02a Asthma +Lung UK PDF 40 KB
- AQS 03 Iechyd Cyhoeddus Cymru PDF 124 KB
- AQS 04 Yr Athro Enda Hayes (Saesneg yn unig) PDF 63 KB
- AQS 04a Yr Athro Enda Hayes (Saesneg yn unig) PDF 44 KB
- AQS 05 Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg yn unig) PDF 233 KB
- AQS 05a Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg yn unig) PDF 39 KB
- AQS 06 Cyngor Dinas Casnewydd (Saesneg yn unig) PDF 126 KB
- AQS 07 Dr Victoria Jenkins, Athro Cysylltiol (Saesneg yn unig) PDF 184 KB
- AQS 07a Dr Victoria Jenkins, Athro Cysylltiol (Saesneg yn unig) PDF 35 KB
- AQS 08 Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (Saesneg yn unig) PDF 222 KB
- AQS 09 The Institute of Acoustics (IOA) (Saesneg yn unig) PDF 233 KB
- AQS 10 Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (Saesneg yn unig) PDF 180 KB
- AQS 11 Cymdeithas Feddygol Prydain (Saesneg yn unig) PDF 276 KB
- AQS 12 Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig) PDF 344 KB
- AQS 13 Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 440 KB
- AQS 14 Living Streets (Saesneg yn unig) PDF 187 KB
- AQS15 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 90 KB
- AQS16 Abergavenny Bio-char (Saesneg yn unig) PDF 421 KB Gweld fel HTML (20) 8 KB
- AQS17 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 432 KB Gweld fel HTML (21) 13 KB
- AQS18 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 90 KB
- AQS19 Grŵp Acwsteg y Sefydliad Cylunio Amgylcheddol a Pheirianneg yng Ngholeg Prifysgol Llundain (Saesneg yn unig) PDF 432 KB Gweld fel HTML (23) 10 KB
- AQS 20 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 86 KB
- AQS 21 Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (Saesneg yn unig) PDF 86 KB
- AQS 22 Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu Cymru Wales (Saesneg yn unig) PDF 92 KB
- AQS 23 Cymdeithas Cerbydau Trydan Cymru (EVA Cymru) (Saesneg yn unig) PDF 163 KB Gweld fel HTML (27) 25 KB
- AQS 24 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 84 KB
- AQS 25 Cymdeithas Lleihau Sŵn (Saesneg yn unig) PDF 113 KB
- AQS 26 My World My Home Coleg y Cymoedd (Saesneg yn unig) PDF 434 KB Gweld fel HTML (30) 9 KB
- AQS 27 Grŵp Trawsbleidiol ar y Ddeddf Teithio Llesol (Saesneg yn unig) PDF 122 KB
- AQS 28 Cymdeithas y Diwydiant Stofiau (Saesneg yn unig) PDF 132 KB
- AQS 29 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 85 KB
- AQS 30 Cycling UK (Saesneg yn unig) PDF 102 KB
- AQS 31 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 100 KB
- AQS 32 Y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd (Saesneg yn unig) PDF 110 KB
- AQS 33 Y Grid Cenedlaethol (Saesneg yn unig) PDF 123 KB
- AQS 34 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 436 KB Gweld fel HTML (38) 11 KB
- AQS 35 Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru (Saesneg yn unig) PDF 161 KB
- AQS 36 Sustrans Cymru (Saesneg yn unig) PDF 195 KB
- AQS 36a Sustrans Cymru (Saesneg yn unig) PDF 52 KB
- AQS 37 Cyfeillion y Ddaear Cymru (Saesneg yn unig) PDF 186 KB
- AQS 38 Cyfoeth Naturiol Cymru PDF 158 KB
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr
ymgynghoriad
Mae Bil yr Amgylchedd
(Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (PDF 247KB) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith (“y Pwyllgor”) ar gyfer craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion
cyffredinol y Bil.
Yn ôl Llywodraeth
Cymru, nod cyffredinol y Bil yw cyflwyno mesurau a fydd yn cyfrannu at
welliannau yn ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru ac yn lleihau effeithiau
llygredd aer ar iechyd dynol, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a’r
economi.
Mae’r Bil yn
cynnig:
>>>>
>>>
darparu fframwaith ar gyfer gosod targedau ansawdd aer cenedlaethol;
>>>
diwygio’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud â’r strategaeth ansawdd aer
genedlaethol; rheoli ansawdd aer yn lleol; rheoli mwg; parthau aer glân/parthau
allyriadau isel a segura cerbyd;
>>>
gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer; a
>>>
gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth seinwedd
genedlaethol.
<<<<
Mae rhagor o
fanylion am y Bil yn y Memorandwm
Esboniadol (PDF 2.2MB) cysylltiedig.
I helpu i lywio
ei waith craffu, mae’r Pwyllgor yn casglu sylwadau ar egwyddorion cyffredinol y
Bil a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodwyd. Yn benodol,
mae’r Pwyllgor am gasglu sylwadau ar y materion a ganlyn:
>>>>
>>>
egwyddorion cyffredinol y Bil a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad
polisi a nodwyd;
>>>
darpariaethau’r Bil, gan gynnwys a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn
cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd:
>>>
targedau ansawdd aer cenedlaethol (adrannau 1 i 7);
>>>
hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer (adran 8);
>>>
strategaeth ansawdd aer genedlaethol (adrannau 9 i 11);
>>>
rheoliadau ansawdd aer (adran 12);
>>>
rheoli ansawdd aer yn lleol (adrannau 13 i 15);
>>>
rheoli mwg (adrannau 16 i 18);
>>>
allyriadau cerbydau (adrannau 19 i 21);
>>>
strategaeth seinweddau cenedlaethol (adrannau 22 a 23);
>>> map
sŵn strategol a
chynlluniau gweithredu ynghylch sŵn
(adran 24);
>>>
darpariaethau cyffredinol (adrannau 25 i 28);
>>>
unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu darpariaethau’r Bil ac a yw’r Bil yn eu
hystyried,
>>>
priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y
nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol);
>>> a
oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a
>>>
goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).
Cyflwyno eich
barn
Hoffem i chi
gyflwyno eich barn drwy lenwi'r ffurflen
ar-lein.
Mae templed y
gellir ei lawrlwytho ar gael i chi ddrafftio eich ymateb cyn i chi ei
anfon. Fodd bynnag, peidiwch ag anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad ar y templed
hwnnw drwy e-bost. Dylai pob ymateb gael eu hanfon drwy'r ffurflen ar-lein.
Y dyddiad cau i
gyflwyno barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 28 Ebrill 2023.
Cyfeiriwch at dudalen y Bil i gael rhagor o
wybodaeth a’r diweddaraf am y Bil.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565