Ymgynghoriad
Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 3 Chwefror 2023 a Dydd Llun, 13 Mawrth 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai yn edrych ar wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd
awdurdodau lleol.
Dros y degawd
diwethaf, mae gwariant awdurdodau lleol ar wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd
wedi lleihau yn sylweddol. Mae sawl awdurdod wedi trosglwyddo'r cyfrifoldeb am
gynnal rhai o'i gwasanaethau i gynghorau cymuned, grwpiau gwirfoddol a mentrau
cymdeithasol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae rhai cyfleusterau wedi cau, tra bod
eraill wedi cael eu cydgrynhoi i ffurfio siopau un stop mwy o faint, sy’n
darparu gwasanaethau ychwanegol fel cymorth tai neu gyngor ariannol.
Mae awdurdodau
lleol yn defnyddio nifer o fodelau i ddarparu eu gwasanaethau hamdden a
llyfrgelloedd. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig
iddynt: darparu gwasanaethau yn fewnol yn unig, darparu gwasanaethau drwy
drefniadau partneriaeth, darparu gwasanaethau drwy gwmnïau masnachu awdurdodau
lleol (LATCs), contractio trefniadau rheoli i sefydliadau dielw, neu
drosglwyddo asedau i grwpiau cymunedol.
Bydd yr
ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar gyflwr presennol y gwasanaethau hamdden a
llyfrgelloedd a ddarperir gan awdurdodau lleol, ac yn archwilio’r heriau y mae
cynghorau yn eu hwynebu wrth gynnal y gwasanaethau hyn. Bydd yr ymchwiliad
hefyd yn archwilio’r modelau darparu amrywiol sy’n cael eu defnyddio, a’r
manteision sy’n gysylltiedig â’r modelau hynny.
Yn benodol, bydd
yr ymchwiliad yn ystyried y materion a ganlyn:
Cyflwr presennol
y gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd a ddarperir gan awdurdodau lleol;
>>>>
>>> Cyflwr presennol y gwasanaethau hamdden a
llyfrgelloedd a ddarperir gan awdurdodau lleol;
>>> Yr heriau ariannol a gweithredol y mae
awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth gynnal y gwasanaethau cymunedol hanfodol
hyn;
>>> Trefniadau a strategaethau ymadael
awdurdodau lleol ar gyfer achosion lle nad yw’r modelau darparu amgen a
ddefnyddir yn llwyddiannus;
>>> Sut mae’r broses o ddarparu gwasanaethau
eraill a ddarperir gan awdurdodau lleol yn rhyngweithio â gwasanaethau hamdden
a llyfrgelloedd;
>>> Sut mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn
defnyddio modelau amgen ar gyfer darparu gwasanaethau, a’r manteision
canfyddedig sy’n gysylltiedig â’r modelau hynny;
>>> Arfer da o ran sicrhau cynaliadwyedd
gwasanaethau lleol hamdden a llyfrgelloedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
<<<
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau
yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau
sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn
unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
- LALLS 01 Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru [Saesneg yn unig] PDF 550 KB Gweld fel HTML (1) 15 KB
- LALLS 02 Community Leisure Wales [Saesneg yn unig] PDF 607 KB
- LALLS 03 Chwaraeon Cymru PDF 301 KB Gweld fel HTML (3) 39 KB
- LALLS 04 Cwmpas [Saesneg yn unig] PDF 396 KB Gweld fel HTML (4) 19 KB
- LALLS 05 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru PDF 409 KB
- LALLS 06 UNISON Cymru [Saesneg yn unig] PDF 626 KB Gweld fel HTML (6) 131 KB
- LALLS 07 Cymdeithas Chwaraeon Cymru [Saesneg yn unig] PDF 461 KB
- LALLS 08 Nofio Cymru [Saesneg yn unig] PDF 793 KB
- LALLS 09 CILIP [Saesneg yn unig] PDF 329 KB
- LALLS 10 Community Managed Libraries National Peer Network [Saesneg yn unig] PDF 270 KB
- LALLS 11 CLICC PDF 281 KB
- LALLS 12 Archwilio Cymru PDF 181 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565