Ymgynghoriad
Goblygiadau data y Cyfrifiad i'r fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi'r Ddarpariaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 14 Rhagfyr 2022 a Dydd Llun, 16 Ionawr 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- IOCD 01 Cyngor Sir Gar PDF 359 KB
- IOCD 02 Coleg Cymraeg Cenedlaethol PDF 2 MB
- IOCD 03 ColegauCymru (Saesneg yn unig) PDF 387 KB
- IOCD 04 Cymdeithas yr Iaith PDF 223 KB
- IOCD 05 Cyngor y Gweithlu Addysg (Saesneg yn unig) PDF 784 KB
- IOCD 06 Mudiad Meithrin PDF 720 KB Gweld fel HTML (7) 12 KB
- IOCD 07 NASUWT (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- IOCD 08 Yr athro Enlli Thomas, Prifysgol Bangor PDF 529 KB Gweld fel HTML (9) 9 KB
- IOCD 09 Comisiynydd y Gymraeg PDF 868 KB
- IOCD 10 Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) PDF 475 KB Gweld fel HTML (11) 11 KB
- IOCD 11 Estyn PDF 323 KB
- IOCD 12 Dyfodol i’r Iaith PDF 922 KB
Diben yr ymgynghoriad
Yn ei gyfarfod ar
8 Rhagfyr 2022,
cytunodd y Pwyllgor Diwylliant,
Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i ofyn am
dystiolaeth ychwanegol ar effaith data’r Cyfrifiad diweddar ar y fframwaith
deddfwriaethol sy’n cefnogi’r Ddarpariaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a’r
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESPs).
Roedd y Pwyllgor
yn siomedig iawn yn y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg fel yr
amlinellwyd yn nata Cyfrifiad 2021 a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2022. Er bod
gostyngiad yn nifer y plant 5 i 15 oed oedd yn gallu siarad Cymraeg, mae canran
y bobl yn y grŵp
oedran hwn sy’n gallu siarad Cymraeg yn dal yn uwch nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae hyn yn dangos y rôl allweddol y mae addysg yn ei chwarae o
ran cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.
Mae’r Pwyllgor yn
credu ei bod yn bwysig ystyried goblygiadau data’r Cyfrifiad ar gyfer materion
a drafodir yn ei ymchwiliad.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu
defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff
dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn
cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith
honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565