Ymgynghoriad
Bil Bwyd (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 15 Rhagfyr 2022 a Dydd Gwener, 27 Ionawr 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr
ymgynghoriad
Cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig waith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol Bil Bwyd (Cymru)
(y Bil). Er mwyn helpu i lywio ei waith craffu, mae'r Pwyllgor yn gofyn am farn
ar egwyddorion cyffredinol y Bil a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad
polisi datganedig.
Diben datganedig
y Bil yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru. Mae’r Bil yn cynnwys
darpariaeth ar gyfer:
>>>>
>>>sefydlu
'Nodau Bwyd' i helpu i gyflawni prif amcan polisi'r Bil;
>>>ei
gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gymryd camau rhesymol i hyrwyddo’r nodau
bwyd;
>>>sefydlu
Comisiwn Bwyd Cymru sydd â'r nod o hyrwyddo a hwyluso datblygiad y nodau bwyd
gan gyrff cyhoeddus, ac i sicrhau y cyflawnir hwy;
>>>ei
gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth fwyd genedlaethol;
>>>ei
gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru) wneud a
chyhoeddi cynllun bwyd lleol
<<<
Cylch gorchwyl
Gofynnodd y
Pwyllgor am dystiolaeth ysgrifenedig ar y materion a ganlyn:
>>>>
>>>Egwyddorion
cyffredinol Bil Bwyd (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth i wireddu'r bwriad
polisi datganedig. Wrth ffurfio barn ar y mater hwn, efallai y byddwch am
ystyried agweddau unigol ar y Bil:
>*>*>*
***Nodau bwyd a
thargedau
***Comisiwn Bwyd
Cymru
***Y strategaeth
fwyd genedlaethol
***Cynlluniau
bwyd lleol
***Materion
cyffredinol gan gynnwys ystyr termau, rheoliadau, dehongliad, a chychwyn
<*<*<*
>>>Unrhyw
rwystrau posibl rhag rhoi darpariaethau'r Bil ar waith, ac a yw’r Bil yn eu
hystyried;
>>>Priodoldeb
y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’u nodir ym
Mhennod 6 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol);
>>>A oes
unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a
>>>goblygiadau
ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).
<<<
Sut i roi eich
barn
Croesawodd y
Pwyllgor eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr ymdrinnir â nhw
yn y cylch gorchwyl uchod.
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd dydd Gwener 27 Ionawr 2023.
Er eglurder, nid
oedd ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
- FWB01 - Synnwyr Bwyd Cymru PDF 458 KB Gweld fel HTML (1) 16 KB
- FWB02 - Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru (NFU) (Saesneg yn unig) PDF 190 KB Gweld fel HTML (2) 40 KB
- FWB03 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) PDF 590 KB Gweld fel HTML (3) 55 KB
- FWB04 - RSPCA Cymru (Saesneg yn unig) PDF 495 KB Gweld fel HTML (4) 28 KB
- FWB05 - Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) (Saesneg yn unig) PDF 166 KB
- FWB06 - PLANED (Saesneg yn unig) PDF 939 KB
- FWB07 - Food and Drink Federation Cymru (FDF) (Saesneg yn unig) PDF 200 KB Gweld fel HTML (7) 34 KB
- FWB08 - Yr Athro Terry Marsden (Saesneg yn unig) PDF 582 KB Gweld fel HTML (8) 20 KB
- FWB09 - Cymdeithas y Pridd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 888 KB
- FWB10 - Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol PDF 231 KB
- FWB11 - BASC (Saesneg yn unig) PDF 321 KB
- FWB12 - RSPB Cymru (Saesneg yn unig) PDF 564 KB
- FWB13 - Sustain (Saesneg yn unig) PDF 618 KB Gweld fel HTML (13) 30 KB
- FWB14 - Maint Cymru (Saesneg yn unig) PDF 210 KB
- FWB15 - Bwyd Sir Gâr Food (Saesneg yn unig) PDF 188 KB Gweld fel HTML (15) 18 KB
- FWB16 - Hybu Cig Cymru (Saesneg yn unig) PDF 304 KB Gweld fel HTML (16) 28 KB
- FWB17 - WWF Cymru (Saesneg yn unig) PDF 357 KB
- FWB18 - Dr Robert Bowen (Saesneg yn unig) PDF 450 KB Gweld fel HTML (18) 18 KB
- FWB19 - British Dietetic Association (BDA) (Saesneg yn unig) PDF 450 KB Gweld fel HTML (19) 20 KB
- FWB20 - Four Paws UK (Saesneg yn unig) PDF 1 MB Gweld fel HTML (20) 110 KB
- FWB21 - Cynghrair Polisi Bwyd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 298 KB
- FWB22 - Archwilio Cymru PDF 206 KB
- FWB23 - Diabetes UK Cymru (Saesneg yn unig) PDF 276 KB
- FWB24 - David Smith (Saesneg yn unig) PDF 832 KB Gweld fel HTML (24) 56 KB
- FWB25 - Comisiynydd y Gymraeg PDF 313 KB Gweld fel HTML (25) 41 KB
- FWB26 - Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur (Saesneg yn unig) PDF 345 KB
- FWB27 - Gweithwyr y Tir Cymru (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- FWB28 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Saesneg yn unig) PDF 395 KB Gweld fel HTML (28) 32 KB
- FWB29 - Estyn (Saesneg yn unig) PDF 139 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565