Ymgynghoriad
Gwagardd Rasio Milgwn yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 20 Mai 2022 a Dydd Llun, 20 Mehefin 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- BGRW 01 - Dogs Trust a'r RSPCA (Saesneg yn Unig) PDF 421 KB
- BGRW 02 - Unigolyn (Saesneg yn Unig) PDF 181 KB Gweld fel HTML (2) 33 KB
- BGRW 03 - Unigolyn (Dwyieithog) PDF 185 KB Gweld fel HTML (3) 34 KB
- BGRW 04 - Jane Dodds AS (Saesneg yn Unig) PDF 187 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgor
Deisebau’r Senedd wrthi’n ystyried deiseb ynghylch gwahardd rasio milgwn yng
Nghymru.
Ymweld testun
llawn y ddeiseb - https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/244932
Wrth geisio deall
mwy am y sefyllfa yng Nghymru, wahoddwyd ecsperts i gyflwyno tystiolaeth
ysgrifenedig mewn ymateb i’r cwestiynau arfaethedig.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu
defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff
dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn
cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith
honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Deisebau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: Deisebau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565